Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Rydym ni'n falch iawn o lansio Adroddiad Blynyddol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru 2024-25. Nid blwyddyn o weithgarwch yn unig sydd dan sylw yn yr adroddiad hwn; mae'n dangos cysylltiad clir a phwerus rhwng arloesedd, ffyniant economaidd ac iechyd ein cenedl. 

Gareth Healey

Mae ein cenhadaeth wedi bod yn ddeublyg erioed, sef gwella canlyniadau iechyd a sbarduno datblygiad economaidd ledled Cymru. Mae’r canlyniadau eleni yn dangos bod y ddau nod wedi bod yn gydnaws â’i gilydd ac wedi'u cydgysylltu'n ddwfn.

Mae sector gwyddorau bywyd Cymru yn gonglfaen i'n heconomi, roedd wedi cynhyrchu £2.62 biliwn o drosiant yn 2021 ac wedi cyflogi dros 12,000 o bobl. Er hynny, rydym ni'n gweithredu mewn tirwedd heriol, gan wynebu bwlch cynhyrchiant cenedlaethol a phwysau sylweddol ar ein system gofal iechyd. Yn y cyd-destun hwn, nid moethusrwydd yw arloesi. Yn hytrach, dyma’r injan a fydd yn ein gyrru ymlaen, gan greu Cymru iachach a chyfoethocach am genedlaethau i ddod.

Effaith economaidd arloesi ym maes iechyd

Felly, sut mae arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn troi'n fanteision economaidd amlwg? Yr ateb yw creu ecosystem ddeinamig lle gall syniadau newydd ffynnu a thyfu. Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydym ni'n gatalydd ar gyfer yr ecosystem hon. Ein rôl yw cysylltu arloeswyr gwych—megis busnesau newydd a busnesau bach a chanolig neu ymchwilwyr academaidd a chorfforaethau byd-eang—â'r cyfleoedd, y buddsoddiad a'r arbenigedd sydd eu hangen i ddod â'u datrysiadau’n fyw.

Pan fydd cwmni o Gymru yn datblygu adnodd diagnostig arloesol neu lwyfan iechyd digidol, mae'n gwneud mwy na dim ond gwella gofal i gleifion. Mae'n creu swyddi gwerth uchel, yn denu buddsoddiad preifat, ac yn rhoi hwb i Werth Ychwanegol Gros (GVA) Cymru. Mae'r gweithgarwch economaidd hwn yn ysgogi twf mewn sectorau cysylltiedig, fel gweithgynhyrchu uwch a thechnoleg ddigidol, gan gynyddu ein gwydnwch cenedlaethol. Mae ein tîm Datblygu Economaidd yn rhan ganolog o'r broses hon. Maent yn darparu'r wybodaeth a'r gefnogaeth hollbwysig sy'n helpu busnesau i dyfu, adleoli a ffynnu yng Nghymru, gan droi potensial arloesol yn llwyddiant economaidd mesuradwy yn y pen draw.

Ein llwyddiannau yn 2024-25 mewn rhifau

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ein gwaith wedi arwain at ganlyniadau rhyfeddol, gan ddangos yr enillion pwerus ar fuddsoddiad y mae arloesedd yn eu cyflawni i Gymru. Rydym yn falch o dynnu sylw at y ffaith fod ein cefnogaeth i'r sector gwyddorau bywyd wedi arwain at y canlynol:

  • £3.9 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros ar gyfer economi Cymru
  • Sicrhau £5 miliwn o gyllid ar gyfer prosiectau a chwmnïau arloesol
  • Denu £2.44 miliwn o fuddsoddiad preifat ym maes gwyddorau bywyd yng Nghymru.

Llwyddodd hyn i sicrhau’r elw rhagorol o £9 am bob £1 o arian cyhoeddus a wariwyd.

Yn hollbwysig, mae'r llwyddiannau economaidd hyn yn gysylltiedig yn uniongyrchol â chanlyniadau iechyd gwell. Mae'r datblygiadau arloesol a gefnogwyd gennym wedi cael effaith gadarnhaol ar 64,606 o gleifion, wedi arbed 1,040 o ddiwrnodau ysbyty i GIG Cymru, ac wedi atal yr angen am 2,191 o ymweliadau clinigol. Mae hyn yn profi mai buddsoddi mewn arloesedd iechyd yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o adeiladu economi gryfach a mwy cynaliadwy tra'n darparu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae ein dinasyddion yn eu haeddu.

Pŵer cydweithio

Nid yw ein llwyddiant yn cael ei gyflawni ar ei ben ei hun. Mae'n ganlyniad i ddull cydweithredol dwfn sy'n dwyn ynghyd arbenigedd o bob rhan o Gymru a'r DU. Yn fewnol, mae gweledigaeth ein tîm Datblygu Economaidd wedi'i hintegreiddio ag ymdrechion pob adran yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gan harneisio ein cyd-gryfderau i ddarparu strategaeth unedig ac effeithiol.

Yn allanol, mae ein heffaith yn cael ei chynyddu drwy bartneriaethau strategol gydag amrywiaeth eang o sefydliadau. Rydym yn ymgysylltu â chyrff ledled y DU sy'n darparu data economaidd cynhwysfawr i ategu ein dadansoddiadau, a'r rhai sy'n cynnig cipolwg hanfodol ar dueddiadau ymchwil cenedlaethol a ffrydiau cyllido. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda chymdeithasau'r diwydiant gwyddorau bywyd sy'n cyfrannu safbwyntiau busnes hanfodol. Yn hollbwysig, mae ein cysylltiadau cryf â phrifysgolion Cymru sydd â ffocws ar wyddorau bywyd yn darparu mynediad at ymchwil ac arbenigedd arloesol ar ddatblygiadau technolegol, gan sbarduno'r don nesaf o dwf yn y sector. Mae'r rhwydwaith helaeth hwn o gydweithwyr yn 

Prosiect Curo: arloesi mewn gofal iechyd cynaliadwy yng Nghymru

Mae ein hymrwymiad i arloesedd i'w weld yn ein prosiect Curo, sef cydweithrediad pwysig â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'r treial hwn yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn defnyddio system rheoli gwastraff clinigol chwyldroadol sydd wedi'i dylunio i leihau'r effaith ar yr amgylchedd, lleihau costau, a gwella cynaliadwyedd y GIG.

Heblaw’r manteision uniongyrchol i ddarpariaeth gofal iechyd, mae'r prosiect yn enghraifft bwerus o sut gall arloesi mewn busnesau bach a chanolig greu cyfleoedd i'r gadwyn gyflenwi, creu swyddi gwyrdd, ac arddangos Cymru fel arweinydd mewn datrysiadau iechyd cynaliadwy.

Dywedodd Brendan Sadka, Prif Swyddog Gweithredol, Sadka Consultancy yn gweithio ar ran Curo Waste, sy’n rhan o Peacocks Medical Group:

“Drwy weithio mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru byddwn ni'n gallu dangos manteision y system Curo yn y byd go iawn. Mae ein technoleg yn gwneud mwy na dim ond darparu arbedion ymarferol a mwy o effeithlonrwydd i'r GIG. Mae hefyd yn tynnu sylw at sut gall arloesedd yng Nghymru osod safonau byd-eang newydd mewn cynaliadwyedd a dull economi gylchol, gan droi datrysiadau lleol yn gyfleoedd sy’n cael effeithiau economaidd ac amgylcheddol pellgyrhaeddol.”

Edrych i’r dyfodol: ein gweledigaeth ar gyfer 2025-26

Gan adeiladu ar fomentwm pwerus y flwyddyn ddiwethaf, rydym yn canolbwyntio ar gynyddu ein heffaith yn 2025-26. Ein gweledigaeth yw esblygu i fod yn ddarparwr canolog o wybodaeth economaidd ar gyfer y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru, sy'n gallu mynd i'r afael â'r cwestiynau mawr sy'n wynebu ein heconomi a'n system iechyd.

Dros y flwyddyn i ddod, byddwn yn parhau i gefnogi cwmnïau addawol o Gymru i'w helpu i dyfu ac ehangu ein cefnogaeth i fusnesau bach a chanolig uchel eu twf sydd â'r potensial i gystadlu ar lwyfan domestig a rhyngwladol. Byddwn hefyd yn cryfhau partneriaethau strategol sy'n cysylltu Cymru â marchnadoedd ehangach y DU a'r byd, gan ddenu talent a chyfleoedd, a sicrhau bod pob arloesedd rydym yn ei gefnogi yn creu gwerth economaidd mesuradwy i Gymru.

Ein nod yn y tymor hir yw:

  • Cau'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU
  • Lleoli ein sector gwyddorau bywyd fel arweinydd cydnabyddedig o fewn dyheadau'r DU i fod y trydydd mwyaf yn fyd-eang
  • Helpu i greu system iechyd fwy cynaliadwy a theg i bawb

Mae'r daith o'n blaenau yn un gyffrous, ac mae'r potensial yn aruthrol. Rydym yn eich gwahodd i ddysgu mwy am ein gwaith a'r arloeswyr anhygoel rydym yn eu cefnogi.

Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2024-25 ar gael i'w ddarllen isod: