Beth os gallai Cymru ddangos i’r byd sut mae system iechyd sydd wir yn cael ei harwain gan arloesedd yn edrych? Yng nghynhadledd Cydffederasiwn GIG Cymru, edrychodd ein sesiwn ymlaen at iechyd a gofal yn 2035 - gan ddychmygu system lle mae atal yn digwydd yn gynharach, mae technoleg yn rhoi amser yn ôl i glinigwyr ac mae mwy o ofal yn digwydd yn nes at adref.
Roedd y drafodaeth yn edrych ar beth sydd angen ei newid nawr i droi’r posibilrwydd hwnnw’n gynnydd. Roedd yn thema a adleisiwyd ar draws y gynhadledd; sut mae symud y tu hwnt i ymateb i bwysau uniongyrchol a chreu system iechyd sy’n gallu mabwysiadu arloesedd fel rhan o ofal bob dydd?
Beth os? O bwysau i bosibilrwydd
Mae galw cynyddol, pwysau ar y gweithlu, anghenion poblogaeth sy’n heneiddio ac sy’n newid, ac anghydraddoldebau parhaus yn bwysau a ddeellir yn dda. Ond un peth sy’n gynyddol glir: ni fydd gwneud mwy o’r un peth yn arwain at ganlyniadau gwahanol.
Mae hyn yn adeiladu ar y sgwrs rydym ni wedi bod yn ei datblygu drwy ein herthygl ddiweddar gyda Nation.Cymru ac MHRA, sy’n archwilio pam na all capasiti ar ei ben ei hun ddatrys y pwysau hwn, a beth sydd ei angen i wneud arloesi yn rhan o ofal bob dydd.
Sut dylai GIG sy’n cael ei arwain gan arloesedd deimlo mewn gwirionedd i glaf?
Yn y pen draw, ni ddylai GIG sy’n cael ei arwain gan arloesedd gael ei farnu yn ôl faint o dechnoleg sydd ganddo, ond yn hytrach yn ôl a yw pobl yn cael gwell gofal o ganlyniad i hynny.
I glaf, gallai hynny olygu cael diagnosis yn gynt, cael mwy o ofal yn ei gymuned a threulio llai o amser yn teithio i’r ysbyty. Gallai olygu bod eu gwybodaeth yn symud gyda nhw pan fydd eu gofal yn symud rhwng gwasanaethau, yn hytrach na gorfod egluro eu stori dro ar ôl tro neu fynd ar drywydd yr hyn sy’n digwydd nesaf.
Mae un persbectif a rannwyd yn ystod y sesiwn yn dangos pam mae hyn yn bwysig. Ar ôl cael diagnosis o ganser, disgrifiodd un cyfrannwr iddo orfod troi’n “glaf heriol” er mwyn sicrhau’r gofal a’r sylw oedd ei angen arno. Roedd symud rhwng gwahanol rannau o’r system iechyd hefyd yn golygu dod ar draws sefyllfaoedd lle nad oedd modd cael gafael ar ganlyniadau gan y gwasanaeth nesaf, ac nad oedd gwybodaeth yn symud yn ddi-dor, ochr yn ochr â gofal.
Ni ddylai system sydd wedi’i chynllunio o amgylch pobl ei gwneud yn ofynnol i gleifion ddod yn arbenigwyr ar ei llywio.
I glinigwyr, byddai’n golygu cael mwy o amser i fod yn glinigwyr. Fe wnaeth ein trafodaeth dynnu sylw at faint o amser clinigol ac egni sy’n cael ei dreulio’n trosglwyddo gwybodaeth rhwng y systemau, yn mynd ar drywydd diweddariadau, ac yn rheoli trosglwyddiadau rhwng gwasanaethau â llaw. Dylai arloesi gael gwared â’r ffrithiant hwnnw, yn hytrach nag ychwanegu haen arall ato.
Sut beth yw hyn yn ymarferol?
Mae ein hadroddiadau Gwybodaeth Sector diweddar yn dangos sut mae gofal eisoes yn dechrau symud y tu hwnt i leoliadau traddodiadol.
Mae diagnosis cynharach yn rhoi cipolwg ar sut beth fyddai gweithio mewn ffordd wahanol. Yng ngorllewin Cymru, mae’r llwybr PROSTAD a ddatblygwyd drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cancer Research UK a Sefydliad TriTech wedi ailgynllunio llwybr diagnostig canser y prostad. Fe wnaeth leihau’r amser rhwng atgyfeiriad gan feddyg teulu ac MRI o 22 diwrnod i 14 diwrnod, ac fe wnaeth leihau’r amser adrodd MRI o wyth diwrnod i un, gan alluogi cleifion i gael adolygiad clinigol a phenderfyniadau biopsi un diwrnod ar ôl MRI.
Mae’r rhain yn enghreifftiau o’r hyn sy’n bosibl yn awr. Sy’n arwain at y cwestiwn anoddach - pan fydd rhywbeth yn gweithio, sut gallwn ni ei wneud yn rhan safonol o ymarfer ledled Cymru?
Symud y tu hwnt i ‘pilotitis’
Yr her o symud o gynlluniau peilot addawol i fabwysiadu’n eang oedd un o’r themâu cryfaf i ddod i’r amlwg o’n sesiwn ac ar draws y gynhadledd. Nid yw’r sector iechyd a gwyddorau bywyd yn brin o syniadau gwych. Yr her yw creu llwybrau cliriach i’r rhai sy’n dangos gwerth i ddod yn rhan o ofal bob dydd.
Mae’r llwybr PROSTAD a amlygwyd yn gynharach yn dangos yr her hon. Er gwaethaf ei ganlyniadau cadarnhaol, mae ein hadroddiad Gwybodaeth Sector yn awgrymu nad yw wedi cael ei fabwysiadu eto gan fyrddau iechyd eraill yng Nghymru, er bod elfennau o’r dull gweithredu’n cael eu hadlewyrchu yn llwybr optimaidd cenedlaethol Cymru.
I’r gwrthwyneb, cafodd adnodd patholeg ddigidol gyda chymorth deallusrwydd artiffisial (AI), a ddatblygwyd gan Ibex Medical Analytics, ei dreialu yng Nghymru, gan ganfod 13% yn fwy o ganserau’r prostad. Cyflwynwyd y dechnoleg ledled Cymru.
Beth allwn ni ei ddysgu o’r profiadau gwahanol hyn? Beth sy’n galluogi rhai datblygiadau arloesol i symud o’r cam profi i fabwysiadu ehangach, tra bo eraill yn aros yn y man cychwyn?
Mae angen mwy na thystiolaeth bod arloesedd yn gweithio er mwyn ei fabwysiadu’n llwyddiannus. Mae’n golygu meddwl am sut y gellir mabwysiadu dulliau addawol yn ehangach o’r cychwyn cyntaf a chreu’r amodau cywir i hynny ddigwydd drwy arweinyddiaeth, cydweithio, blaenoriaethau a rennir a llwybrau clir at weithredu.
Pwy sy’n gorfod gwneud i hyn ddigwydd, a beth sydd angen digwydd nawr?
Un ymadrodd a ddaeth i’r amlwg yn ystod y drafodaeth: “Mae gan Gymru gyfle i wneud pethau unwaith, dros Gymru”. Ond nid yw bod yn fach ac yn gysylltiedig yn fantais os nad ydym yn ymddwyn fel un system gysylltiedig.
Mae saith bwrdd iechyd yn gwasanaethu gwahanol boblogaethau ac anghenion lleol, a rhaid i ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn adlewyrchu’r gwahaniaethau hynny. Ond ni ddylai cyflenwi lleol olygu datrys yr un problemau sylfaenol saith gwaith.
Mae hynny’n golygu creu llwybrau cliriach o werthuso i fabwysiadu, felly mae dysgu mewn un sefydliad yn llywio penderfyniadau mewn mannau eraill, wedi’u cefnogi gan arweinyddiaeth, ewyllys wleidyddol, cyllid a chydweithio.
Pwynt pwysig a godwyd oedd na all GIG sy’n cael ei arwain gan arloesedd hefyd ddibynnu ar bob clinigydd prysur yn dod yn arloeswr. Yn hytrach, mae angen i’r system ei gwneud yn haws i glinigwyr ddarparu gofal rhagorol, gan gael gwared ar feichiau gweinyddol diangen a sicrhau bod offer, gwybodaeth a llwybrau effeithiol yn dod yn rhan o ymarfer bob dydd.
O bosibilrwydd i gynnydd
Fel y myfyriodd Jacqueline Totterdell, Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar yn Llywodraeth Cymru, yn y gynhadledd - “yn rhy aml rydym yn dal i weithredu fel sefydliadau unigol yn hytrach nag fel un system. Ac er nad oes prinder o ran gweithgarwch, nid yw gweithgarwch yr un peth â chynnydd os nad yw cleifion a’r cyhoedd yn teimlo ac yn gweld y gwahaniaeth.”
Mae gan Gymru gyfle i wneud arloesi yn rhan o ofal bob dydd. Fel integreiddiwr cenedlaethol, mae gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru rôl bwysig o ran dod ag arbenigedd, tystiolaeth a phartneriaid at ei gilydd ar draws iechyd, y byd academaidd a diwydiant, gan greu’r amodau cywir i arloesi ffynnu a chael ei fabwysiadu ar raddfa fawr.
Mae llawer o gynhwysion y dyfodol hwnnw eisoes yn bodoli yng Nghymru. Y cyfle nawr yw dod â nhw at ei gilydd gyda mwy o bwrpas, gan greu system iechyd lle nad eithriad yw arloesi, ond rhan o ofal bob dydd.
Dyna sut rydym ni’n troi posibilrwydd yn gynnydd y gall pobl ei deimlo go iawn.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y sesiwn hon, cymryd rhan mewn trafodaethau panel yn y dyfodol, neu archwilio gwaith ein tîm Gwybodaeth Sector, cysylltwch â ni yma.
Diolch o galon i’n panel am rannu eu safbwyntiau, eu profiadau a’u syniadau ar sut gallai system iechyd a gofal sy’n cael ei harwain gan arloesedd edrych i Gymru.
- Dr Frank Ratcliff, Cyfarwyddwr Cyflenwi, Health Innovation Wessex
- Steve Haines, Cyfarwyddwr Newid y System Genedlaethol, Macmillan Cancer Support
- Vicky Rothwell, Pensaer Menter Strategaeth a Thrawsnewid, Aire Logic
- Tom Griffiths, Rheolwr Datblygu Busnes - UK Healthcare, Amazon Web Services
- Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.