Pleser oedd cael y cyfle i fod yn bresennol ac arddangos yn ConfedExpo y GIG 2026 ym Manceinion, a ddaeth ag arweinwyr o bob rhan o’r sector iechyd, gofal cymdeithasol, diwydiant a’r trydydd sector at ei gilydd ar adeg o newid sylweddol i’r sector iechyd ledled y DU.
Er bod llawer o’r trafodaethau wedi’u llywio gan bolisïau GIG Lloegr, gan gynnwys y cynllun 10 mlynedd a’r Cynllun Canser Cenedlaethol, mae’r themâu a amlygwyd yn ystod y digwyddiad yn berthnasol iawn i Gymru. Mae pwysau ar y gweithlu, diagnosis cynharach, anghydraddoldebau iechyd, trawsnewidiadau digidol a’r her o roi datblygiadau arloesol ar waith yn flaenoriaethau cyffredin ar draws systemau iechyd a gofal cymdeithasol.
I ni, roedd y digwyddiad yn gyfle i fyfyrio ar sut mae’r sgyrsiau ehangach hyn yn cysylltu â’n gwaith ni yng Nghymru: cefnogi dulliau cydweithio, helpu partneriaid i ymateb i anghenion systemau, a galluogi arloesedd i gyrraedd y bobl a’r cymunedau a allai elwa fwyaf. Mae’r blog hwn yn rhannu cipolwg ar y themâu allweddol a ddaeth i’n sylw, gan gynnwys mabwysiadu datblygiadau arloesol, dysgu wedi’i alluogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial (AI), gofal canser, iechyd cymdogaeth a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.
Beth mae newidiadau i systemau yn ei olygu ledled y DU
Roedd cynllun 10 mlynedd GIG Lloegr yn ganolbwynt i lawer o’r sgyrsiau yn ConfedExpo, gyda thrafodaethau’n canolbwyntio ar iechyd cymdogaeth, y gweithlu, ansawdd, cynhyrchiant a newidiadau i’r model gweithredu. Fel rhan o gyfarchiad y Cadeirydd, disgrifiodd yr Arglwydd Victor Adebowale CBE, Cadeirydd Cyd-ffederasiwn y GIG, y foment fel un ar gyfer “cyfleoedd a newid”, tra bo Syr James Mackey, Prif Swyddog Gweithredol, GIG Lloegr, wedi myfyrio ar yr angen i symleiddio, cael gwared ar gymhlethdod a dod â phobl at ei gilydd fel rhan o un diben clir.
Er mai i Loegr y mae’r cynllun hwn yn berthnasol, mae’r pwysau sy’n gyrru’r trafodaethau hyn yn gyfarwydd yma yng Nghymru hefyd. Gofynnir i systemau iechyd a gofal cymdeithasol wella mynediad, lleihau amrywiadau, cefnogi’r gweithlu a gwneud gwell defnydd o ddatblygiadau arloesol, gan ymateb i’r galw cynyddol a’r diffyg adnoddau. I Gymru, y gwerth yw deall y dulliau, y partneriaethau a’r modelau cyflawni sy’n cael eu profi mewn mannau eraill, ac ystyried yr hyn y gellir ei ddysgu er mwyn cefnogi’r gwaith o fabwysiadu datblygiadau arloesol yma.
Gwireddu datblygiadau arloesol i sicrhau effaith ar y boblogaeth
Thema a gododd dro ar ôl tro yn ystod sawl sesiwn oedd yr her o gyflawni dulliau mabwysiadu parhaus ar draws y system.
Tynnodd y sesiwn “Pilotitis to Progress” sylw at y mater hwn, gan ofyn pam na all llawer o ddatblygiadau profedig fynd heibio i’r cyfnodau peilot er gwaethaf tystiolaeth sy’n dangos eu bod yn gallu gwella canlyniadau. Pwysleisiodd siaradwyr, er gwaethaf hyn, y gall cynnydd arafu yn sgil pwysau cyllid tymor byr, penderfyniadau anghysylltiol a system sy’n canolbwyntio ar gostau uniongyrchol yn hytrach na gwerthoedd hirdymor. Nid y ffaith a yw’r datblygiadau arloesol yn gweithio yw’r broblem bob amser, ond a yw systemau’n cael eu sefydlu i’w mabwysiadu, eu hariannu a’u graddio. Tynnodd siaradwyr sylw at yr angen i “gofnodi gwerth datblygiadau arloesol yn llawn – eu costau heddiw, a’r hyn y gall ei ddatgloi ar draws y system gyfan.”
Adlewyrchwyd hyn hefyd yn y sesiwn iechyd y boblogaeth dan arweiniad AstraZeneca, a oedd yn edrych ar sut y gellir graddio llwyddiant lleol yn genedlaethol. Roedd enghreifftiau’n cynnwys LUCID, rhaglen arennau sy’n dangos sut y gall menter brofi effaith yn lleol cyn ehangu ar draws sawl rhanbarth. Yn yr un modd, mae’r Respiratory Transformation Partnership yn gweithio ar lefel genedlaethol i wella canlyniadau i bobl sydd ag asthma a Chlefyd Rhwystrol Cronig yr ysgyfaint (COPD), gan ddangos sut gall dulliau cydlynol gefnogi’r gwaith o ganfod achosion yn gynt, lleihau amrywiadau mewn gofal, a chreu capasiti ar draws y system. Mae’r enghreifftiau hyn yn atgyfnerthu nad creu rhagor o ddatblygiadau arloesol yn unig yw’r her, ond creu’r amodau iddynt ledaenu a chyrraedd y cymunedau a allai elwa fwyaf.
AI ar waith: dysgu personol, sgiliau’r gweithlu a mabwysiadu’n ddiogel
AI oedd un o themâu amlycaf y gynhadledd eleni, ond y trafodaethau mwyaf diddorol oedd y rhai yn canolbwyntio ar ddefnydd ymarferol yn y byd go iawn.
Roedd y sesiwn gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), sef “A allai AI ddarparu dysgu wedi'i bersonoli ar raddfa fawr? Gwersi gan GIG Cymru”, yn enghraifft gref o sut mae partneriaid GIG Cymru yn cyfrannu at sgyrsiau ehangach am fabwysiadu AI yn ddiogel ac yn ymarferol, a sut mae eisoes yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r gweithlu.
Fe wnaeth siaradwyr o AaGIC ac Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd rannu sut gall ‘mentoriaid AI’ ddarparu cymorth un-i-un wedi’i deilwra i bobl sy’n gweithio mewn rolau clinigol a gweinyddol prysur. Cafodd HALI, y Rhyngwyneb AI Gofal Iechyd, ei gyflwyno fel adnodd sy’n gallu asesu rôl, gwybodaeth ac anghenion dysgu defnyddiwr cyn darparu cymorth personol. Hefyd, tynnwyd sylw at GWEN, y Mentor Deallusrwydd Artiffisial Genomeg, fel adnodd newydd sy’n cefnogi dysgu mewn maes lle mae gwybodaeth ac ymarfer yn esblygu’n gyflym.
Yr hyn a oedd yn sefyll allan oedd y ffocws ar raddfa a hygyrchedd. Nododd y siaradwyr nad deall gwerth dysgu wedi’i bersonoli yw’r her, ond ei ddarparu’n gyson ar draws gweithlu mawr ac amrywiol. Mae AI yn cynnig cyfle i ddarparu dysgu hyblyg ar-alw sy’n cyd-fynd â rolau pobl ac yn meithrin hyder a gallu ar yr un pryd.
Mae’r newid hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu mewn addysg. Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn ymgorffori AI yn y cwricwlwm meddygol israddedig, gan helpu i baratoi meddygon y dyfodol i weithio’n ddiogel ochr yn ochr â systemau a alluogir gan AI. Cyfeiriodd adborth gan fyfyrwyr hefyd at symud oddi wrth fodelau goddefol sy’n seiliedig ar ddarlithoedd tuag at ddulliau mwy rhyngweithiol a phersonol o ddysgu.
Canser, iechyd cymdogaeth a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
Er bod llawer o'r drafodaeth am ganser wedi’i fframio o amgylch Cynllun Canser Cenedlaethol Lloegr, mae’r heriau sylfaenol yn berthnasol iawn i Gymru hefyd, gan gynnwys diagnosis cynharach, llwybrau cydgysylltiedig, a mynediad a chymorth teg drwy gydol profiad unigolyn o ganser.
Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar sut y gellir cyflawni systemau trwy gyflymu diagnosis a thriniaethau, lleihau amrywiadau, a dylunio datblygiadau arloesol gyda graddfa mewn golwg o’r cychwyn cyntaf. Fel y nododd un siaradwr, mae angen dysgu ar draws systemau, yn hytrach nag ailadrodd gwaith tebyg mewn ffyrdd gwahanol – “pam gwneud rhywbeth 20 gwaith mewn gwahanol ffyrdd pan allwn ni ei wneud unwaith?”
Tynnwyd sylw at sgrinio canser yr ysgyfaint fel enghraifft o raglen flaenllaw yn Lloegr sydd wedi cael ei gweithredu’n llwyddiannus ar raddfa fawr, gan gynnig dysgu defnyddiol ar gyfer sut y gellir dylunio, darparu ac ehangu gwasanaethau. Mae hyn yn cysylltu’n agos â’r Rhaglen Mynd i’r Afael â Chanser, sy’n canolbwyntio ar gyflymu’r broses o fabwysiadu triniaethau a thechnolegau sydd wedi’u profi a all gefnogi diagnosis cyflymach, gwella llwybrau atgyfeirio clinigol, ac ymateb i bwysau gwirioneddol ar wasanaethau yng Nghymru. Drwy ymgysylltiad clinigol â gweithwyr proffesiynol y GIG ledled Cymru, mae’r rhaglen yn helpu i nodi lle gall arloesi gefnogi’r system orau a gwella canlyniadau i bobl yr effeithir arnynt gan ganser.
Ochr yn ochr â hyn, roedd y drafodaeth ar iechyd cymdogaeth yn atgyfnerthu pwysigrwydd ymddiriedaeth, perthnasoedd a llais cymunedol. Tynnodd sesiwn Cymorth Canser Macmillan sylw at yr angen i ddylunio gwasanaethau gyda chymunedau, yn hytrach nac ar eu cyfer, gan gryfhau rôl mudiadau gwirfoddol a phobl sydd â phrofiad uniongyrchol. Mae hyn yn cysylltu â’n gwaith partneriaeth gyda Chymorth Canser Macmillan yng Nghymru, lle rydym yn archwilio amrywiadau digroeso o ran ataliad, diagnosis, triniaethau a chanlyniadau.
Yn sail i'r sesiynau yn ConfedExpo oedd yr her barhaus o ran anghydraddoldebau iechyd. Tynnwyd sylw at y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng cymunedau mwy a llai difreintiedig, gan atgyfnerthu’r angen i fodelau gofal newydd ganolbwyntio ar effeithlonrwydd, yn ogystal â gwella canlyniadau i’r rhai sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf. Mae’r sgyrsiau hyn yng Nghymru a ledled y DU yn ein helpu i ddeall lle gallai arloesi, cydweithio a rhannu'r arferion gorau gefnogi gofal mwy cyson sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ledled Cymru.
Gwireddu datblygiadau arloesol i sicrhau effaith
O’r holl sesiynau a gafwyd, roedd un neges gyson i'w gweld yn glir. Nid datblygiadau arloesol yn unig fydd yn siapio dyfodol y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ond pa mor dda y cânt eu graddio, eu gwreiddio a’u mabwysiadu.
I Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gwerth mynychu’r digwyddiad yw dod â’r hyn a ddysgwyd yn ôl i Gymru a’i gysylltu â’n gwaith ein hunain: cefnogi dulliau cydweithio, helpu partneriaid i ymateb i anghenion systemau, a galluogi datblygiadau arloesol gael eu gwireddu. Y cyfle nawr yw adeiladu ar y sgyrsiau hyn, yn enwedig drwy’r Rhaglen Mynd i’r Afael â Chanser, ein hymgysylltiad clinigol a’n gwaith partneriaeth ehangach, er mwyn helpu i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru – ymateb i anghenion systemau a sicrhau bod datblygiadau arloesol yn cyrraedd y bobl a’r cymunedau a allai elwa fwyaf.