Mae realiti estynedig (XR) yn agor y drws i bosibiliadau newydd ym maes gofal iechyd meddwl, gan gynnig cymorth ymdrochol a phersonol i'r bobl sydd ei angen fwyaf. Ond beth sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd? A pha brosiectau sydd ar y gweill? Dyma rai o'r cwestiynau a drafodwyd yn ein digwyddiad diweddaraf gyda Rhwydwaith Arloesedd Iechyd (HIN) De Llundain.
Mewn partneriaeth â Rhwydwaith Arloesedd Iechyd (HIN) De Llundain, daethom â chymuned amrywiol o arloeswyr, clinigwyr, academyddion ac arweinwyr trydydd sector at ei gilydd i edrych ar sut mae technolegau ymdrochi (immersive) yn ail-lunio’r ffordd rydyn ni’n ymdrin â salwch iechyd meddwl difrifol.
Yn unol â Rhaglen Mindset Innovate UK, sydd werth £20 miliwn, dangosodd y digwyddiad sut mae therapiwteg ymdrochi ddigidol yn cael ei datblygu a'i chefnogi i wella gwasanaethau iechyd meddwl ar hyd a lled y DU. Ar ben hynny, mae'r rownd olaf o gyllid wedi cefnogi dros 70 o brosiectau, gydag 80% ohonynt yn targedu grwpiau economaidd-gymdeithasol is. Mae’r rhain wedi arwain at greu dros 63 o swyddi ac wedi denu £2.1 miliwn o gyllid dilynol gan fuddsoddwyr preifat. Mae Rhaglen Gymorth Mindset-XR Innovator, sy'n sail i'r gwaith hwn, yn helpu arloeswyr i ddatblygu eu syniadau a’u troi'n atebion parod ar gyfer y farchnad sy'n diwallu anghenion cleifion a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd.
Daeth amrywiaeth eang o randdeiliaid i'r digwyddiad – o'r byd academaidd, diwydiant, iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, a phobl â phrofiadau uniongyrchol – gan ddwyn ynghyd gymysgedd anhygoel o brofiadau, safbwyntiau, a gwaith cyffrous o bob sector.
Potensial trawsnewidiol realiti estynedig (XR) ym maes iechyd meddwl
Un o’r themâu canolog yn y digwyddiad oedd y dystiolaeth gynyddol y gall realiti estynedig a therapiwteg ymdrochi ddigidol ddarparu cymorth iechyd meddwl mwy effeithiol, hygyrch a phersonol. Gydag un oedolyn o bob pump yn y DU â chyflyrau iechyd meddwl, mae mwy o angen nag erioed am atebion arloesol y mae modd eu hehangu. Mae technolegau realiti estynedig, fel sesiynau natur mewn realiti rhithwir ac ymarferion anadlu ymdrochol, eisoes yn dangos eu bod yn gallu helpu i wella llesiant a chyrraedd pobl a fyddai fel arall yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau traddodiadol.
Rhoi cyd-gynhyrchu a phrofiad bywyd wrth galon arloesedd
Roedd un neges yn glir; mae angen i bobl sydd â phrofiad uniongyrchol fod yn rhan o'r gwaith o ddylunio a darparu ymyriadau iechyd meddwl. Mae prosiectau fel 'Cerdded yn Ein Hesgidiau' yn ailddiffinio’r cymorth a roddir i unigolion sydd wedi colli breichiau neu goesau, drwy sicrhau bod y rhai y mae hyn yn cael effaith uniongyrchol arnynt yn rhan ganolog o’r gwaith o greu a phrofi adnoddau newydd. Mae'r ymrwymiad hwn i gydgynhyrchu yn sicrhau bod datblygiadau arloesol yn seiliedig ar anghenion go iawn ac yn cael effaith go iawn.
Goresgyn rhwystrau drwy gyllid a chymorth strategol
Er bod potensial realiti estynedig yn glir, roedd arloeswyr yn tynnu sylw'n gyson at yr her o sicrhau cyllid i ddod â'u syniadau'n fyw. Mae rhaglenni fel Mindset-XR, a gefnogir gan Innovate UK, yn hanfodol i ddarparu'r cymorth ariannol a’r ecosystem sydd eu hangen i droi cysyniadau addawol yn atebion sy'n barod ar gyfer y farchnad. Mae buddsoddi strategol yn cyflymu cynnydd ac yn helpu i greu amgylchedd cefnogol lle gall arloesedd ffynnu.
Pŵer cydweithio ar draws sectorau
Efallai mai'r peth pwysicaf sydd wedi deillio o'r digwyddiad yw gwerth cydweithio ar draws sectorau. Drwy ddwyn ynghyd arbenigedd o feysydd academaidd, iechyd a gofal, diwydiant a'r trydydd sector, dangosodd y digwyddiad sut gall ymdrech ar y cyd sbarduno newid ystyrlon. Roedd amrywiaeth y safbwyntiau a’r profiadau a rannwyd yn pwysleisio na all un sefydliad neu ddisgyblaeth fynd i'r afael â chymhlethdodau iechyd meddwl ar ei ben ei hun. Drwy weithio mewn partneriaeth gyda phwrpas cyffredin y mae sicrhau effaith go iawn.
Roedd y digwyddiad yn ffordd bwerus o'n hatgoffa bod dyfodol gofal iechyd meddwl yn dibynnu ar arloesedd, cynhwysiant a chydweithrediad. Drwy ganolbwyntio ar y themâu allweddol hyn, gallwn sicrhau bod technolegau newydd fel realiti estynedig nid yn unig yn bosibiliadau cyffrous, ond hefyd yn adnoddau ymarferol sy'n gwella bywydau ac yn trawsnewid gofal i bawb.
Awyddus mewn dysgu mwy am raglen XR Mindset? Ewch i wefan Rhwydwaith Arloesedd Iechyd De Llundain.
Julie Traynor
Rheolwr Ymgysylltu