Cynigiodd Uwchgynhadledd Ymchwil GEL sedd flaen i fi o ran y datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil genomeg ac arloesedd gofal iechyd, gan roi gweledigaeth gyffrous o’r trawsnewid gofal iechyd sydd ar y gweill.
Yng nghyd-destun fframwaith rheoleiddio cadarn y DU, amlygodd yr uwchgynhadledd sefyllfa gref y genedl o ran manteisio i’r eithaf ar ragoriaeth reoleiddiol ar gyfer datblygu technoleg arloesol ym maes genomeg a meddygaeth wedi’i phersonoli.
Dwy thema gyffredinol a ddaeth i’r amlwg drwy'r digwyddiad oedd y Gwasanaeth Gofal Iechyd Genomeg, gan ddefnyddio'r Prosiect 100,000 o Genomau i roi darlun cynhwysfawr ar ddilyniannu genom cyfan i gleifion sy'n delio â chanser a chlefydau prin, a'r Gwasanaeth Ymchwil Genomeg, dolen anfeidredd o gasglu data, casglu mewnwelediad a chymhwyso mewn gofal clinigol, gan lywio gwelliannau parhaus i'r system.
Roedd themâu allweddol y digwyddiad yn cynnwys:
Mynd i’r Afael â Heriau Economaidd ac Iechyd
Mae’r DU yn wynebu heriau sylweddol oherwydd ei phoblogaeth sy’n heneiddio a nifer yr achosion o salwch hirdymor ymhlith y boblogaeth sy’n gweithio. Mae ymchwil genomeg yn cynnig atebion i liniaru'r heriau hyn drwy ddarparu diagnosis cynnar a thriniaethau wedi'u targedu.
Sgrinio Genom Cyfan a Ffarmagenomeg
Mae dyfodol gofal iechyd yn dibynnu ar alluoedd sgrinio genom cyfan a ffarmagenomeg. Drwy ddeall cyfansoddiad genetig unigolyn, gallwn deilwra triniaethau i'w hanghenion penodol, gan wella effeithiolrwydd a lleihau effeithiau andwyol. Mae'r dull hwn, sydd wedi’i bersonoli, yn ymestyn i haenu triniaethau a sgoriau risg polygenig, gan alluogi rhagfynegiadau mwy cywir o ran risg a chynnydd clefydau.
Arloesi ym maes Sgrinio Canser a Diagnosis o Ganser
Dangosodd yr uwchgynhadledd ddatblygiadau arloesol ym maes sgrinio canser, fel biopsïau hylifol ar gyfer profion i ganfod sawl math o ganser yn gynnar. Gall y profion anfewnwthiol hyn chwyldroi diagnosis cynnar.
Genomeg Cellog a Datblygu Brechlyn
Mae sefydlu canolfan patholeg genomeg cellog a chychwyn brechlyn y GIG yn gam arall ymlaen. Bydd y mentrau hyn yn harneisio pŵer data genomeg i ddatblygu brechlynnau a therapïau newydd, yn enwedig ar gyfer canserau prin ac anodd eu trin fel glioma.
Rôl AI a Dysgu Peirianyddol
Bydd deallusrwydd artiffisial (AI) a dysgu peirianyddol yn chwarae rôl hanfodol yn y chwyldro genomeg hwn. Gall y technolegau hyn ddadansoddi llawer iawn o ddata genomeg i nodi patrymau a chydberthnasau y byddai'n amhosibl i bobl eu canfod. Bydd y gallu hwn yn cyflymu datblygiad triniaethau newydd ac yn gwella cywirdeb rhagfynegiadau clefydau.
Ffarmagenomeg a Diogelwch Cyffuriau
Mae datblygiad banc bio Yellow Card, ymdrech ar y cyd rhwng GEL a MHRA, yn uchafbwynt arall. Bydd y fenter hon yn astudio diogelwch cyffuriau drwy ffarmagenomeg, gan arwain at adrodd ar Yellow Card ffarmagenomeg yn y dyfodol. Bydd y system hon yn helpu i nodi adweithiau niweidiol i gyffuriau yn seiliedig ar broffiliau genetig, gan sicrhau defnydd mwy diogel a mwy effeithiol o feddyginiaethau.
Roedd mynychu Uwchgynhadledd Ymchwil GEL 2024 yn gam pwysig i fi, drwy ddangos arweinyddiaeth y DU mewn ymchwil genomeg ac arloesedd gofal iechyd. Drwy harneisio pŵer sgrinio genom cyfan, ffarmagenomeg ac offer diagnostig uwch, nid yn unig y tynnodd yr uwchgynhadledd sylw at y datblygiadau hyn ond hefyd paratodd y llwyfan ar gyfer dulliau arloesol yn y dyfodol a fydd yn gwella canlyniadau iechyd ac yn mynd i'r afael â heriau dybryd ein hoes.
Megis dechrau y mae’r daith tuag at ddyfodol lle mae meddyginiaeth wedi’i phersonoli yn norm, ac amlygodd Uwchgynhadledd Ymchwil GEL 2024 y cyfle cyffrous hwn.
Os ydych yn sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ceisio symud arloesedd i'r rheng flaen, rydyn ni yma i helpu. Cysylltwch â ni i ddarganfod sut gallwn gydweithio a chael effaith sylweddol gyda'n gilydd. Cysylltwch fan hyn.