Cefais y pleser o fynd i Gynhadledd Flynyddol ac Arddangosfa Conffederasiwn GIG Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Daeth y digwyddiad hwn â mwy na 450 o arweinwyr, gweithwyr proffesiynol a phartneriaid ynghyd, gyda phob un yn canolbwyntio ar un genhadaeth benodol: trawsnewid iechyd a gofal ledled Cymru. Roedd pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar, gan adlewyrchu'r newidiadau sylweddol sydd ar y gorwel i’r sector iechyd ac i ddemocratiaeth Cymru.
Croesawu Newidiadau a Chyfleoedd
Gydag etholiad Senedd Cymru ar y gorwel, roeddech chi’n gallu teimlo’r tensiwn yn yr aer, ac fe dynnodd y digwyddiad sylw at yr heriau a'r cyfleoedd aruthrol sydd ar y gweill. Roedd y neges yn glir: mae'r byd yn newid, felly rhaid i’r GIG newid hefyd. Roedd yr arweinwyr yn galw am ddull beiddgar o feddwl, cydweithio ac ymrwymiad o'r newydd i arloesi.
Roedd trawsnewid yn thema amlwg drwy gydol y digwyddiad. Roedd y siaradwyr yn pwysleisio pa mor bwysig yw cydweithio ar draws sectorau, gan gynnwys llywodraeth leol, y trydydd sector a diwydiant. Roedd Conffederasiwn GIG Cymru yn annog adolygiad strategol o fuddsoddiad cyfalaf, yn enwedig mewn seilwaith digidol, er mwyn datgloi cynhyrchiant a gwella canlyniadau.
Roedd Jeremy Miles, sef Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ategu'r angen am berfformiad, tryloywder ac arweinyddiaeth gref. Bu hefyd yn cydnabod cynnydd y gwaith o leihau rhestrau aros a gwella gwasanaethau gofal wedi'u cynllunio, gan bwysleisio pa mor bwysig yw cysondeb ac atebolrwydd ar draws pob bwrdd iechyd. Mae'r disgwyliad yn glir: rhaid sicrhau bod y ddarpariaeth a’r arloesi yn cyd-fynd.
Mynd i’r Afael â Chanser: Model ar gyfer Newid System
Cynhaliodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru sesiwn benodol ar y fenter ‘Mynd i'r Afael â Chanser’. Dangosodd hyn sut mae ymdrechion integredig ar draws maes ymchwil, ymarfer clinigol, diwydiant a'r byd academaidd yn mynd i'r afael ag un o heriau iechyd mwyaf dybryd Cymru.
Roedd siaradwyr y sesiwn yn cynnwys Rhodri Griffiths, ein Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, a Neil Mesher a Meinir Jones, sef dau Gyfarwyddwr Anweithredol. Roedd y sesiwn yn tynnu sylw at sut mae'r dull gweithredu o fewn y fenter, ar sail cydweithio ac wedi'i ategu gan dystiolaeth, yn cynnig model ar gyfer arloesi mewn meysydd eraill.
Soniodd Neil Mesher am y potensial ar gyfer cynyddu arloesedd:
“Yn sgil hyn, mae cyfle arbennig yma i gyflymu'r broses o fabwysiadu graddfa cleifion. Yn fy marn i, mabwysiadu graddfa cleifion yw'r her fwyaf y mae diwydiant yn ei hwynebu pan fydd yn cysylltu ag unrhyw system gofal iechyd aeddfed yn unrhyw le yn y byd.”
Cynyddu Arloesedd a Dysgu ar y Cyd
Drwy gydol y dydd, roedd y trafodaethau panel yn canolbwyntio ar yr angen i fabwysiadu datblygiadau arloesol yn gyflym ac ar raddfa fawr, a hynny er mwyn lleihau dyblygiadau ac i sicrhau bod cynlluniau peilot llwyddiannus yn dod yn arfer safonol. Roedd pwysigrwydd arweinyddiaeth glir, prosesau safonol a pharodrwydd i ddysgu o lwyddiannau a rhwystrau, yn thema a oedd yn codi dro ar ôl tro.
Er bod yr heriau'n sylweddol, dangosodd Digwyddiad Conffederasiwn GIG Cymru fod yr uchelgais a'r gallu i newid ym maes iechyd a gofal yng Nghymru yn fwy fyth. Drwy feithrin dulliau cydweithio gwirioneddol, croesawu arloesedd a chanolbwyntio’n ddygn ar ddeilliannau, mae Cymru'n barod i ddarparu gwasanaeth iechyd sy'n diwallu anghenion ei phobl nawr, ac yn y dyfodol.
Daeth y digwyddiad i ben gyda her bwysig i bawb a oedd yn bresennol, sef mynd yn ôl i'ch sefydliad gydag o leiaf un syniad y gellir gweithredu arno. Nid drwy bolisi yn unig y bydd y gwaith o drawsnewid iechyd a gofal yng Nghymru yn cael ei gyflawni, ond hefyd drwy gyd-ymdrechion unigolion sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut gall Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru eich helpu chi i sicrhau bod arloesi ar flaen y gad ym maes gofal? Cysylltwch drwy anfon e-bost at helo@hwbgbcymru.com.