Mae Megan Chick yn sôn am y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd (NISH) a sut mae’n trawsnewid y ffordd y mae Cymru’n mynd i’r afael â’r heriau iechyd cynyddol ac yn cefnogi llesiant.

Mae Cymru’n wlad sy’n frwd dros chwaraeon ac sydd wedi ymrwymo i lesiant. Ond, i gyflawni heriau heddiw, mae angen syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio arnom ni. Mae mwy a mwy o bwysau ar y GIG, lefelau cynyddol o salwch cronig, ac angen brys i gadw pobl yn egnïol ac iach am amser hirach. Mae technoleg chwaraeon ac iechyd yn datblygu’n gyflym ond, yn rhy aml, mae syniadau gwych yn aros yn sownd mewn seilos, fyth yn cyrraedd y bobl a allai elwa fwyaf.
Ffurfiwyd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd (NISH) i lenwi’r bwlch hwnnw. Drwy ddod ag athletwyr, clinigwyr, entrepreneuriaid ac ymchwilwyr at ei gilydd, gallwn droi syniadau addawol yn atebion go iawn sy’n gwella bywydau ac yn cryfhau cymunedau.
Mae NISH yn dod ag ymchwilwyr, clinigwyr, entrepreneuriaid, gwyddonwyr chwaraeon, a chymunedau at ei gilydd i ddarparu atebion newydd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a pherfformiad yng Nghymru – a’r tu hwnt.
Beth ydyn ni’n ei wneud?
Rydyn ni’n cefnogi busnesau i ganfod atebion arloesol i heriau iechyd a chwaraeon – o fusnesau newydd a busnesau bach a chanolig, i sefydliadau mawr amlwladol. Drwy annog pobl i rannu syniadau, darparu cymorth busnes, a meithrin gwaith ymchwilio, cyflwyno a gweithredu, rydyn ni’n gyrru arloesedd er mwyn rhoi hwb i dwf economaidd, creu cyfleoedd newydd, a sefydlu Cymru fel arweinydd mewn technolegau chwaraeon ac iechyd.
Mae NISH yn ar flaen y gad yn nhirwedd arloesedd technoleg chwaraeon ac iechyd Cymru, sy’n tyfu. Fel canolbwynt deinamig, rydyn ni’n uno’r byd academaidd, diwydiant, a’r sectorau gofal iechyd i gyflymu datblygiadau arloesol mewn perfformiad, llesiant, a thechnoleg ar hyd a lled y wlad.
Gyda chefnogaeth Prifysgol Abertawe, Bargen Ddinesig Bae Abertawe a byrddau iechyd lleol, mae NISH yn gweithredu fel llwyfan cydweithio lle mae ymchwil, entrepreneuriaeth, a chwaraeon yn dod ynghyd i greu effaith economaidd a chymdeithasol wirioneddol yng Nghymru a’r tu hwnt.
Partneriaeth gydweithredol rhwng y byd academaidd, diwydiant a’r GIG yw NISH, ac mae’n esblygu’n barhaus. Ein hamcan yw cryfhau’r partneriaethau presennol a llunio cynghreiriau newydd, denu talent ac annog buddsoddiad – er mwyn rhoi hwb i’r economi a gwneud Abertawe yn arweinydd byd-eang mewn arloesedd technoleg feddygol a chwaraeon.
Mae’r aelodaeth yn tyfu’n gyflym, ac mae amrywiaeth o fusnesau bach a chanolig lleol, cyrff chwaraeon cenedlaethol, a chwmnïau technoleg enfawr fel Vodafone eisoes yn rhan o’r gymuned.
Meddai’r Athro Keith Lloyd, Cyfarwyddwr NISH:
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflwyno’r fenter arloesol hon sydd wedi ymrwymo i wella chwaraeon a llesiant ym mhob cwr o Gymru a’r tu hwnt. Drwy feithrin cymuned ar draws meysydd chwaraeon, iechyd a thechnoleg, rydyn ni’n anelu at ddatblygu atebion arloesol a fydd yn chwyldroi’r sector.”
Troi heriau’n gyfleoedd
Mae gan bob syniad ei heriau, felly rydyn ni’n helpu ein haelodau i wneud y canlynol:
- Dod o hyd i gyllid er mwyn symud o’r cysyniad i’r prototeip
- Deall rheoliadau cymhleth ym maes iechyd a llesiant
- Adeiladu pontydd rhwng gwahanol sectorau a disgyblaethau
- Hyrwyddo eu sefydliad
- Cwrdd â sefydliadau eraill sydd eisiau cydweithio
Drwy ddarparu mynediad i leoliadau, arbenigedd, a rhwydweithiau, rydyn ni’n helpu arloeswyr i oresgyn yr heriau hyn a chyflawni eu potensial. Er enghraifft, gallai offeryn a ddyluniwyd i wella perfformiad athletwr hefyd helpu i gynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn chwaraeon. Gallai ateb llesiant ar gyfer cymunedau lleol ddod yn gynnyrch byd-eang arwyddocaol. Rydyn ni eisoes wedi gweld yr effaith drwy brosiectau fel CanSense, sy’n datblygu profion gwaed ar gyfer canfod canser yn fuan, ac Imersifi, sy’n defnyddio technoleg drochol i drawsnewid hyfforddiant meddygol.
Mae’r astudiaethau achos hyn yn dangos pŵer cydweithio – pan fydd clinigwyr, ymchwilwyr, ac arloeswyr yn dod at ei gilydd yn NISH, mae’r syniadau’n symud yn gyflym o’r labordy i fod yn atebion go iawn sy’n arbed amser, yn gwella iechyd, ac yn newid bywydau. Pan fydd pobl yn dod ynghyd i rannu syniadau – naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb – dyna pryd mae arloesi’n digwydd.
Sut mae NISH yn helpu
Yn NISH, rydyn ni’n falch o’r gefnogaeth rydyn ni’n ei rhoi. Dyluniwyd ein gwasanaethau i helpu arloeswyr, ar bob cam o’u taith. Rydyn ni’n darparu:
- Lleoliadau i arbrofi: labordai, gweithdai prototeipio, a chyfleusterau trochol fel ein Canolfan Ddysgu Drwy Efelychu a Throchi
- Cymorth pwrpasol: rhaglenni sy’n helpu mentrau i ddatblygu, mireinio, a datblygu eu syniadau
- Cyfleoedd i gydweithio: mynediad at glinigwyr, ymchwilwyr, athletwyr, a chyllidwyr
- Digwyddiadau ac arddangosiadau: lle mae syniadau’n cael eu rhannu, partneriaethau’n cael eu llunio, a momentwm yn tyfu
Nid mater o ddarparu cyfarpar neu gyngor yn unig yw hyn – mae’n golygu bod yn rhan o gymuned sy’n credu mewn gwneud pethau mewn ffordd wahanol.
Ymaelodi â NISH
Gall unrhyw un sy’n gweithio ym meysydd technoleg chwaraeon, technoleg feddygol neu ofal iechyd ymaelodi yma neu wneud cais i logi swyddfa yma os ydyn nhw’n awyddus i fod yn rhan o weledigaeth NISH – sef trawsnewid y dirwedd technoleg iechyd a chwaraeon yng Nghymru.
Rydyn ni’n chwyldroi’r byd chwaraeon, y byd iechyd, a’r byd technoleg - un syniad arloesol ar y tro.
Bywgraffiad yr awdur:
Megan Chick yw Rheolwr Cyfathrebu’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd. Mae’n gweithio’n agos gyda’r tîm bach i ddod ag ymchwilwyr, gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a chwmnïau technoleg at ei gilydd i ganfod atebion i heriau go iawn ym meysydd chwaraeon ac iechyd.