Mae ein gwasanaeth cymorth cyllid yn helpu arloeswyr i sicrhau cyllid grant yn llwyddianus i gyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol ar gyfer gwell iechyd a lles.
Gallwn gefnogi ceisiadau am gyllid sydd â’r potensial i wella iechyd a gofal pobl Cymru.
Pa gymorth sydd ar gael?
-
Cymorth i lunio ceisiadau
-
Gwasanaeth adolygu cynigion
-
Sesiwn ysgrifennu cynigion
-
Cysondeb â meini prawf cyllidwyr
-
Creu consortiwm
-
Gwybodaeth am gyllid
-
Cysylltu â chyllidwyr ac asiantaethau cymorth
Pwy sy’n gymwys ar gyfer y gwasanaeth cymorth cyllid?
Rydym yn gweithio gyda sefydliadau i ddatblygu arloesedd ym maes gofal iechyd a fydd o fudd i gleifion, yn gwella GIG Cymru, ac yn rhoi hwb i economi Cymru. Mae’r rhaglen gymorth yn hyblyg, a gall academyddion, partneriaid yn y diwydiant, clinigwyr, awdurdodau lleol neu elusennau ei defnyddio.
Rydym yn awyddus i gefnogi ceisiadau am gyllid gyda'r meini prawf canlynol:
-
Rhaid i chi fod yn chwilio am gyllid ar gyfer prosiect arloesol.
-
Rhaid i’ch prosiect arloesol ganolbwyntio ar roi budd i iechyd a gofal, a disgwylir y bydd rhywfaint o’i effaith yn cael ei gwireddu yng Nghymru.
-
Rhaid i geisiadau fod yn gydweithredol fel arfer, gan gynnwys mwy nag un mudiad.
-
Os ydych chi’n chwilio am gymorth ariannol ar wahân i grant iechyd a gofal byddwn yn eich cyfeirio at Busnes Cymru a/neu Banc Datblygu Cymru am gyngor. Nid ydym yn gallu cefnogi busnesau sy’n gweithio ar eu pen eu hunain ar geisiadau am grantiau.
Sut alla i ddechrau?
Ebostiwch ni ar CymorthCyllido@hwbgbcymru.com os hoffech gael mynediad i’n gwasanaethau cymorth cyllid neu ddarganfod mwy amdanynt.
Adnoddau Allanol
-
Canllawiau cyffredinol ar lunio ceisiadau am gyllid gan y Resource Centre
-
“Secrets to writing a winning grant” cyhoeddwyd yn Nature, 2019