Pa gymorth sydd ar gael?   

  • Cymorth i lunio ceisiadau  

  • Gwasanaeth adolygu cynigion  

  • Sesiwn ysgrifennu cynigion  

  • Cysondeb â meini prawf cyllidwyr  

  • Creu consortiwm  

  • Gwybodaeth am gyllid   

  • Cysylltu â chyllidwyr ac asiantaethau cymorth   

  

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y gwasanaeth cymorth cyllid?   

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau i ddatblygu arloesedd ym maes gofal iechyd a fydd o fudd i gleifion, yn gwella GIG Cymru, ac yn rhoi hwb i economi Cymru. Mae’r rhaglen gymorth yn hyblyg, a gall academyddion, partneriaid yn y diwydiant, clinigwyr, awdurdodau lleol neu elusennau ei defnyddio.   

Rydym yn awyddus i gefnogi ceisiadau am gyllid gyda'r meini prawf canlynol:  

  • Rhaid i chi fod yn chwilio am gyllid ar gyfer prosiect arloesol.  

  • Rhaid i’ch prosiect arloesol ganolbwyntio ar roi budd i iechyd a gofal, a disgwylir y bydd rhywfaint o’i effaith yn cael ei gwireddu yng Nghymru.   

  • Rhaid i geisiadau fod yn gydweithredol fel arfer, gan gynnwys mwy nag un mudiad.  

  • Os ydych chi’n chwilio am gymorth ariannol ar wahân i grant iechyd a gofal byddwn yn eich cyfeirio at Busnes Cymru a/neu Banc Datblygu Cymru am gyngor. Nid ydym yn gallu cefnogi busnesau sy’n gweithio ar eu pen eu hunain ar geisiadau am grantiau.   

  

Sut alla i ddechrau?

Ebostiwch ni ar CymorthCyllido@hwbgbcymru.com os hoffech gael mynediad i’n gwasanaethau cymorth cyllid neu ddarganfod mwy amdanynt.

 

Adnoddau Allanol