Mae Cymru yn gartref i ecosystem arloesi ddeinamig sy’n trawsnewid ein sefyllfa o ran iechyd, llesiant a’r economi.
Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni’n falch o fod yn cefnogi’r newid hwn mewn systemau.
Mae ein timau’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn deall ac adnabod yn well yr heriau maen nhw’n eu hwynebu, ac, yn eu tro, cefnogi busnesau a diwydiant i gyflymu arloesedd sy’n ateb yr heriau hynny.
Sut gall Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru eich helpu chi?
Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni’n hwyluso rhaglen sy’n cydweithio â grwpiau diddordeb arbennig ar draws technoleg ddigidol, deallusrwydd artiffisial a roboteg. Os yw hyn yn rhywbeth y mae gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan ynddo, neu os ydych chi eisiau deall mwy am ein sefydliad a’r ecosystem yng Nghymru, cysylltwch â ni heddiw drwy anfon e-bost at helo@hwbgbcymru.com.