Yng Nghymru, mae cefnogi pobl i reoli eu hiechyd a’u lles yn annibynnol yn flaenoriaeth. Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn treialu technoleg ddigidol ar gyfer rheoli meddyginiaethau er mwyn grymuso pobl, gwella canlyniadau iechyd, a gweithio tuag at symleiddio’r broses o ddarparu gwasanaethau iechyd ar draws Pen-y-bont ar Ogwr.

Uwch ddyn yn trafod meddyginiaeth gyda gweithiwr gofal iechyd

I lawer o bobl ar draws y DU, mae meddyginiaethau’n rhan o fywyd bob dydd. Mae tabledi sy’n cael eu cymryd yn rheolaidd yn sefydlogi cyflyrau iechyd cronig ac yn gallu atal salwch rhag gwaethygu.  

Mae camreoli meddyginiaeth a pheidio â’i chymryd fel y dylid yn broblem sy’n effeithio ar oddeutu hanner y rhai sy’n defnyddio meddyginiaethau yn gyson. Er bod hyn yn bwysig, mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd cymryd meddyginiaeth o ddydd i ddydd yn gyson. Mae hyn yn dod yn fwy cyffredin ymysg pobl hŷn a allai ei chael yn anodd cofio cymryd meddyginiaeth neu fod ganddynt sawl dos dyddiol i’w rheoli.  

Mae’r effaith ariannol yn werth £300 miliwn o wastraff meddyginiaeth yn y DU. Ar ben hynny, amcangyfrifir bod 5 – 10% o’r derbyniadau i'r ysbyty yn gysylltiedig â meddyginiaeth, gyda 29% o’r derbyniadau hynny o ganlyniad i bobl yn peidio â chymryd meddyginiaeth fel y dylid.   

Mae ambell opsiwn ar gael ar hyn o bryd i helpu pobl i reoli eu meddyginiaeth, fel galwadau dyddiol gan ofalwyr sy’n ymweld i helpu pobl i gymryd meddyginiaeth ar yr adegau iawn. Fodd bynnag, mae’r rhain yn aml yn cymryd amser, ac maen nhw’n gallu costio hyd at £9 fesul galwad tŷ 1.

Mae opsiynau eraill yn cynnwys siartiau a chlociau atgoffa, systemau monitro dosau, a negeseuon atgoffa drwy wasanaeth teleofal. Ond, nid yw’r un o’r rhain yn rhoi adborth uniongyrchol i weithwyr proffesiynol, aelodau’r gymuned na’r teulu i gadarnhau bod y defnyddiwr wedi llwyddo i gymryd ei feddyginiaeth. 

Nodi anghenion iechyd ac edrych ar atebion drwy arloesedd digidol 

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Pen--bont ar Ogwr yn cydnabod bod angen cynyddol am system rheoli meddyginiaethau arloesol i wella canlyniadau iechyd. Ceisiwyd ateb a oedd yn grymuso unigolion, yn rhoi mwy o annibyniaeth, ac yn rhoi sicrwydd i deuluoedd a gofalwyr.  

Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â chyd-destun polisïau fel  ‘Cymru Iachach’ (2018), sy’n amlinellu’r angen i gefnogi pobl i fyw bywydau gwell drwy atal salwch, eu grymuso i reoli eu hiechyd, a’u galluogi i fyw’n annibynnol am gyn hired â phosibl. Mae hefyd yn dangos pa mor bwysig yw croesawu arloesedd a gwneud y defnydd gorau posibl o dechnolegau digidol, data a chyfathrebu i wella ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol.   

Aeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr ati i gysylltu â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ofyn am ein cymorth. Fe wnaethom gydweithio â nhw drwy bob cam o’r broses i ganfod a mabwysiadu atebion arloesol ar gyfer rheoli meddyginiaethau. 

 Fel Arweinydd Prosiect, rwyf wedi gweithio mewn partneriaeth agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr, mewn capasiti rheoli prosiectau, gan ddarparu amserlenni realistig, mesur costau, rhoi cyngor gwrthrychol, ac arbenigedd hanfodol.

Aeth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ati gyda’r gwaith helaeth o sganio’r gorwel, gan nodi’r dechnoleg bresennol sydd ar gael ar gyfer rheoli meddyginiaethau2, a chynnig ateb sy’n seiliedig ar y prif flaenoriaethau a nodwyd. Fe wnaethom hefyd gefnogi cynigion cyllido a gwneud yn siŵr bod dealltwriaeth glir o’r angen presennol, a pha atebion y gellir eu darparu drwy fabwysiadu arloesedd digidol. 

Yn sgil y cydweithio hwn, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr wrthi’n treialu technoleg ddigidol o’r enw YourMeds. Mae’r dechnoleg glyfar hon i reoli meddyginiaethau yn gweithredu fel blwch tabledi digidol, gyda phodiau wedi’u llenwi ymlaen llaw gan fferyllwyr a’u danfon yn uniongyrchol i’r defnyddiwr. 

Mae YourMeds yn cynnwys cymhorthion sain a gweledol i atgoffa’r defnyddiwr pan fydd y feddyginiaeth yn barod i’w chymryd, ac mae ap ar gael hefyd sy’n rhoi gwybodaeth ar unwaith i ddarparwyr gofal a theuluoedd pan fydd rhywun wedi cael gafael ar y feddyginiaeth. Mae’r dechnoleg hefyd yn rhoi gwybod yn uniongyrchol i unigolion cysylltiedig os na fydd neb wedi cael gafael ar y feddyginiaeth.

Galluogi annibyniaeth ac edrych o’r newydd ar ddyfodol gofal cymdeithasol 

Gallai technoleg ddigidol i reoli meddyginiaethau arwain at fwy o annibyniaeth i’r rheini sy’n dibynnu ar feddyginiaethau. Yn hytrach na dibynnu ar alwadau dyddiol neu negeseuon atgoffa drwy wasanaeth teleofal, gallant gael gafael ar eu meddyginiaeth ar yr adegau penodedig, heb ddibynnu ar ofalwr nac aelod o’r teulu.

Drwy fabwysiadu technoleg ddigidol yn hytrach na galwadau dyddiol, amcangyfrifir bod y costau a arbedir oddeutu £3,600 y flwyddyn. O ganlyniad, mae modd ailddyrannu amser staff i wasanaethau cymunedol eraill. 

Wrth gefnogi unigolion gyda’u trefn cymryd meddyginiaeth, gallai technoleg ddigidol i reoli meddyginiaethau gael effaith gadarnhaol ar y derbyniadau i'r ysbyty. Cefnogir hyn gan NICE, a ddywedodd fod YourMeds wedi sicrhau bod y sefyllfa’n well o ran bod pobl yn cymryd meddyginiaeth yn gyson fel y dylid, ac wedi lleihau nifer y bobl sy’n gorfod mynd i’r ysbyty a achosir gan gamreoli meddyginiaeth. Drwy leihau nifer yr atgyfeiriadau argyfwng, gall technoleg ddigidol fod yn gyfrwng sy’n atal a gwneud yn siŵr bod pethau’n aros yn iawn.  

Mae technoleg ddigidol i reoli meddyginiaethau hefyd yn gallu helpu gofalwyr i adnabod pobl sy’n cael trafferth cymryd meddyginiaeth fel y dylid, drwy hysbysiadau system ap. Mae hyn yn darparu gwybodaeth bwysig am yr angen, gan helpu i ad-drefnu’r llif gwaith, symleiddio gwasanaethau, ac ailgyfeirio cymorth i’r mannau lle mae ei angen fwyaf.  

Hefyd, gall systemau digidol i reoli meddyginiaethau fod yn gynaliadwy. Fel y nodwyd yn flaenorol, mae gwastraff meddyginiaethau yn costio £300 miliwn y flwyddyn. Mae dull digidol yn golygu bod llai o siawns i wneud camgymeriadau, a gellir ail-fuddsoddi'r arian sy’n cael ei arbed mewn gwasanaethau allweddol eraill. 

Hefyd, mae’n bosibl y bydd systemau digidol i reoli meddyginiaethau yn cael effaith ar bobl eraill heblaw’r sawl sy’n defnyddio meddyginiaethau. Os yw aelodau’r teulu’n byw’n bell oddi wrth bobl sy’n rheoli meddyginiaeth yn ddyddiol, yna mae’r dechnoleg hon yn rhoi sicrwydd bod rhywun yn cael gafael ar y feddyginiaeth yn briodol.   

Er bod y prosiect hwn yn ei ddyddiau cynnar, mae’n amlwg bod dull digidol o reoli meddyginiaethau yn gallu caniatáu i bobl fyw’n annibynnol a chael mwy o reolaeth dros eu lles. Mae angen atebion digidol a dulliau arloesol i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar y gofal sydd ei angen arnynt – gan roi grym i bobl a’u cadw’n ddiogel ac yn iach.

Os hoffech chi gymorth i ddatblygu a mabwysiadu dulliau arloesol mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, cysylltwch â hello@lshubwales.com


1 Daeth y ffi hon o gyfraddau codi tâl Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am alwad gofal 15 munud i helpu gyda rhoi meddyginiaethau. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg hefyd yn comisiynu galwadau am ofal os oes gan rywun angen sy’n ymwneud â meddyginiaeth yn unig, gan ddyfynnu oddeutu £9 am bob galwad gofal meddyginiaeth yn unig. Fodd bynnag, weithiau gall costau gofal preifat fod yn llawer uwch na hyn, gan ddibynnu ar y darparwr gofal annibynnol.

Adroddiad gwybodaeth: Technolegau i gefnogi cydymffurfiaeth â meddyginiaethau