Croeso i Ysbrydoli Arloesedd, ein herthygl nodwedd fisol lle rydyn ni’n rhannu’r straeon, y datblygiadau a’r llwyddiannau diweddaraf ym maes arloesi yng Nghymru.
Mae Mike Wilson, Arweinydd Gwybodaeth Sector, a’n Tîm Gwybodaeth Sector ehangach wedi bod yn brysur y mis hwn yn casglu straeon o dirwedd arloesi ffyniannus Cymru.
Rydym yn gyffrous i adrodd am nifer o ddatblygiadau sydd nid yn unig yn dangos ecosystem arloesi ddeinamig Cymru, ond sydd oll yn helpu i wella canlyniadau iechyd i bobl ledled y wlad.
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi £7m o gyllid ar gyfer y system famolaeth ddigidol genedlaethol
Mae system ddigidol newydd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru yn cael ei lansio yn dilyn buddsoddiad gwerth £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, y cam hwn, gan ddweud y bydd y system yn cael ei chyflwyno ledled Cymru dros y ddwy i dair blynedd nesaf.
Ar hyn o bryd mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn defnyddio system wahanol. Bydd creu un system ddigidol ar gyfer Cymru yn galluogi’r holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â gofal i rannu gwybodaeth yn gynt, a allai helpu i leihau cymhlethdodau posibl a sicrhau gofal effeithiol. Bydd darpar famau yn gallu cael mynediad at eu cofnodion a chael negeseuon amserol i helpu i sicrhau beichiogrwydd iach.
Bydd y system yn cael ei datblygu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) mewn partneriaeth â’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a bydd yn cael ei hintegreiddio ag ap a gwefan GIG Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:
“Mae sawl adolygiad diweddar o wasanaethau mamolaeth yng Nghymru a’r DU wedi galw am greu system ddigidol unedig.
“Bydd y system newydd hon yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon diolch i rannu gwybodaeth yn gyflymach ac yn well. Bydd hefyd yn rhoi llawer mwy o reolaeth i fenywod dros eu cofnodion mamolaeth ac yn caniatáu iddynt roi adborth i fydwragedd a meddygon yn llawer cyflymach, drwy ap a fydd yn cadw cofnod o’u holl drafodaethau â gweithwyr iechyd proffesiynol.
“Bydd gwelliannau o ran cywirdeb casglu data hefyd yn galluogi byrddau iechyd i gynllunio gwasanaethau’n well.”
Dau gwmni’n gwneud cynnydd yn yr her i wella gwaith o ddarparu endosgopïau yng Nghymru
Dyfarnwyd cyllid i IQ Endoscopes a CanSense i ddatblygu eu cysyniadau yng ngham cyntaf yr Her Endosgopi, sy’n cael ei chynnal gan y tîm Arloesi yn Siapio Newid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac sy’n cael ei gefnogi gan Gronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae CanSense yn datblygu prawf gwaed i helpu gyda'r gwaith o flaenoriaethu cleifion sydd ar y rhestr aros am endosgopi ac i leihau’r amser cyn cael diagnosis, ac mae IQ Endoscopes yn datblygu endosgopau hyblyg untro cynaliadwy sy’n dileu’r angen am brosesau dadheintio drud sy’n cymryd llawer o amser.
Dywedodd yr Athro Jared Torkington, arweinydd clinigol yr Her, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a'r Rhefr a Chyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
“Rydyn ni’n croesawu’r cyfle hwn i atgyfnerthu ein cydweithrediad â phartneriaid wrth i ni adeiladu’r sylfaen dystiolaeth a’r gallu yng Nghymru i hybu buddsoddi uchelgeisiol ym maes arloesi er mwyn sbarduno twf economaidd a gwella canlyniadau iechyd a lles."
Moondance Cancer Initiative yn cyhoeddi cyllid ar gyfer saith prosiect i wella canlyniadau canser yng Nghymru
Mae Moondance Cancer Initiative wedi cyhoeddi y bydd dros hanner miliwn o bunnoedd yn cael ei roi i saith prosiect dan arweiniad timau ledled GIG Cymru fel rhan o’i rownd gyllido ddiweddaraf i wella canlyniadau canser yng Nghymru.
Mae Moondance Cancer Initiative yn bodoli i ganfod, ariannu ac ysgogi syniadau arloesol i wneud Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes goroesi canser. Yn sgil y rownd ddiweddaraf hon o gyllid, mae 26 o brosiectau gweithredol bellach yn cael eu hariannu gan y Cynllun ledled Cymru. Mae’r prosiectau sydd wedi cael cyllid yn cynnwys integreiddio biopsi hylifol yn llwybr diagnostig canser yr ysgyfaint, clinigau biopsi’r pen a’r gwddf dan arweiniad nyrsys ar gyfer cleifion allanol, cefnogi cyflwyno Archwiliadau Iechyd yr Ysgyfaint yng Nghymru, a llawer mwy.
Mae Moondance wedi dewis y prosiectau fel rhan o Alwad Cyllid Canfod a Diagnosis Cynnar y fenter, sy’n ceisio cyflymu’r broses o roi newidiadau ar waith a fydd yn cynyddu nifer y canserau sy’n cael eu diagnosio’n gynt yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Jared Torkington, Cyfarwyddwr Clinigol Moondance Cancer Initiative:
“Mae gennym gyfle unigryw yma yn Moondance i ariannu syniadau sy’n gallu cael effaith wirioneddol o ran canfod a diagnosio canser yn gynt mewn cleifion, a drwy wneud hynny helpu i wella canlyniadau canser ledled Cymru. Rydyn ni’n gwybod bod rhestrau aros ac atgyfeiriadau ar gyfer triniaethau canser yn uwch nag erioed, felly mae angen i GIG Cymru feddwl a gweithredu mewn ffordd wahanol. Mae cysylltu ag arloeswyr a chefnogi syniadau fel y rhain yn gam tuag at wneud Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes canlyniadau canser.”
Ydy hyn wedi’ch ysbrydoli chi? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes arloesi y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gallwn ni helpu. Cysylltwch â ni drwy lenwi ein Ffurflen Ymholiad Arloesi. Gyda’n gilydd, gallwn drawsnewid gofal iechyd yng Nghymru.