Gwybodaeth am y rôl

Rydym yn chwilio am rywun eithriadol i ymuno â’n tîm fel Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, sydd â'r gallu i feddwl yn strategol, gyda sgiliau cryf o ran meithrin cysylltiadau ac sy'n rhannu ein gwerthoedd o ran tegwch, urddas a pharch.  Byddwch yn gweithio gyda ni ac yn dod ag egni, brwdfrydedd, a sgiliau cyfathrebu a phobl ardderchog er mwyn adeiladu ar ein llwyddiannau a gwneud yn siŵr bod ein gweledigaeth uchelgeisiol yn cael ei gwireddu.

Bydd gennych hanes blaenorol llwyddiannus o gefnogi’r gwaith o fabwysiadu arloesedd, fel ymarferydd datblygu  economaidd, uwch arweinydd mewn cwmni corfforaethol mawr neu fel perchennog / rheolwr.

Bydd y Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd yn adrodd i’r Prif Swyddog Gweithredol, ac yn aelod allweddol o’r tîm rheoli gweithredol, ac yn bennaf gyfrifol am greu, gweithredu a mesur llwyddiant dull y cwmni o wella canlyniadau iechyd a lles i bobl yng Nghymru, gan wella effeithlonrwydd a gwerth yn y system iechyd a gofal yng Nghymru; a hybu datblygiad economaidd, drwy dwf busnes a chreu swyddi. Llwythwch y disgrifiad swydd llawn i lawr.

Buddion

  • Amgylchedd gwaith a thîm gwych
  • Gwyliau hael – 30 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau cyhoeddus
  • Wythnos 37.5 awr ar gyfer holl aelodau amser llawn y tîm
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr a gofal llygaid
  • Parcio car (yn ôl disgresiwn)
  • Oriau Hyblyg
  • Pensiwn

Sut mae gwneud cais

I wneud cais, anfonwch CV cynhwysfawr gyda’ch cymwysterau addysgol a phroffesiynol, eich hanes cyflogaeth llawn a’ch cyflog ar hyn o bryd, ynghyd â datganiad ategol.

Ni ddylai’r datganiad ategol fod yn fwy na dwy ochr A4. Dylech ddarparu tystiolaeth yn eich datganiad am eich addasrwydd yn erbyn y meini prawf ym Manyleb y Person a dylech egluro pam mae gennych chi ddiddordeb yn y swydd, a ble gwelsoch chi’r hysbyseb swydd

Dylid cyflwyno ceisiadau i careers@lshubwales.com

  • Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw: 12:00, dydd Llun 24 Awst 2020
  • Y Diwrnod Asesu: Dydd Gwener, 11 Medi 2020

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd edrychwch ar y disgrifiad swydd llawn isod:

 Nodwch nad ydym yn bwriadu ymgysylltu ag unrhyw asiantaethau ynghylch yr ymgyrch recriwtio hon.