Lleoliad: Cyfunwch eich amser yn gweithio o bell ac yn ein swyddfa yng Nghaerdydd
Yn atebol i: Prif Swyddog Gweithredol
Cyflog: £31,557
Oriau: Llawn amser (37.5 awr yr wythnos)
Tymor: Parhaol
Mae gennym gyfle gwych i Gynorthwyydd Strategol profiadol ymuno â’n tîm yn y rôl ddibynadwy hon, sy’n gweithio gyda’n Prif Swyddog Gweithredol ac yn ei gefnogi’n uniongyrchol.
Yn y swydd hon, bydd cyfrinachedd, trin gwybodaeth sensitif a’r gallu i ymdopi â blaenoriaethau, gan sicrhau bod ein Prif Swyddog Gweithredol yn cael ei gefnogi’n llawn, yn ail natur i chi. Gyda hanes llwyddiannus o ddarparu cefnogaeth weinyddol a gweithredol lefel uchel i Brif Weithredwr neu ar lefel Cyfarwyddwr Bwrdd, byddwch yn meddu ar broffesiynoldeb, diplomyddiaeth a’r gallu i gyflawni drwy gydlynu gweithgareddau ar draws ein tîm.
Bydd eich rôl hefyd yn cynnwys:
- Cynllunio a rheoli dyddiadur
- Cefnogi a chydlynu digwyddiadau allanol ar ran ein Prif Swyddog Gweithredol gyda rhanddeiliaid allweddol fel y GIG a Llywodraeth Cymru
- Casglu adroddiadau manwl y Bwrdd, y Pwyllgor ac adroddiadau manwl eraill, ynghyd â gwybodaet reoli ar ran y Prif Swyddog Gweithredol
- Rheoli Prosiectau
- Gweithio’n agos gyda’n tîm Cyfathrebu i ddarparu sesiynau briffio manwl ar gyfer areithiau’r Prif Swyddog Gweithredol ac eitemau newyddion
Gweler y Disgrifiad Swydd sydd wedi’i atodi i gael rhagor o fanylion am y cyfle hwn.
Pam gweithio i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru?
- Ymunwch â ni a bod yn aelod o dîm bach, ystwyth a chyfeillgar
- Diwylliant gweithio hyblyg a chefnogol, gan gynnwys cynllun Oriau Hyblyg
- Cydbwysedd cefnogol rhwng bywyd a gwaith, gyda hawl hael i wyliau - 30 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus yn ychwanegol
- Cynllun pensiwn gyda chyfraniad o 7% gan y Cyflogwr
Ewch ati i wneud cais nawr!
Anfonwch eich CV diweddaraf a datganiad ategol (dim mwy na dwy dudalen o hyd) drwy anfon e-bost atom yn careers@lshubwales.com gan nodi pam rydych chi o’r farn mai chi yw’r person gorau ar gyfer y cyfle cyffrous hwn, ac yn egluro sut rydych chi’n bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
- Bydd angen i’ch cais ddod i law erbyn 4pm ar 25 Hydref 2024.
- Cynhelir y cyfweliadau yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd ar 5 Tachwedd 2024.
Os hoffech chi gael trafodaeth anffurfiol gychwynnol gyda’n Prif Swyddog Gweithredol am y swydd hon, cysylltwch â Cari-Anne Quinn, cari-anne.quinn@lshubwales.com.