Amdan y Rôl

Mae gennym swydd wag gyffrous i ymuno â’n Tîm Mabwysiadu Arloesedd fel Dadansoddwr y Farchnad Gofal Iechyd. Dyma’r cyfle perffaith i unigolyn llawn cymhelliant ddefnyddio ei sgiliau dadansoddi ac ymchwilio a helpu i lywio dyfodol y dirwedd ymchwil gwyddorau bywyd a gofal iechyd ddeinamig.

Byddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn casglu gwybodaeth am y farchnad a’r sector i gefnogi arloeswyr sy’n datblygu ac yn mabwysiadu atebion sydd â’r potensial i drawsnewid maes iechyd a lles. Bydd y swydd yn golygu ymchwilio, cymathu a dehongli tystiolaeth ar draws ystod eang o bynciau a thueddiadau allweddol sy’n berthnasol i wyddorau bywyd Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys gofal iechyd, technoleg feddygol, meddygaeth fanwl, technolegau digidol a’r sector fferyllol.

Bydd eich rôl yn cynnwys cyfrifoldebau fel:

  • Datblygu prosiect arloesi ym maes gofal iechyd
  • Asesiadau dichonoldeb o’r farchnad
  • Asesiadau technoleg o’r farchnad
  • Ystyriaethau economeg iechyd
  • Canfod ac ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • Gweithgareddau marchnata, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu strategol

I weld holl fanylion y swydd hon, darllenwch y Disgrifiad o’r Swydd.

Pam dewis gweithio i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru? 

  • Ymunwch â ni er mwyn bod yn aelod o dîm bach a chyfeillgar
  • Diwylliant gwaith cynhwysol a hyblyg
  • Sefydliad sy’n seiliedig ar werthoedd
  • Cydbwysedd cefnogol rhwng bywyd a gwaith, gyda hawl hael i wyliau - 30 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus yn ychwanegol        
  • Cynllun pensiwn gyda chyfraniad o 9% gan y cyflogwr  

Gwnewch Gais Nawr!

Anfonwch neges e-bost atom yn careers@lshubwales.com gyda’ch CV diweddaraf a datganiad eglurhaol (dim mwy na dwy dudalen o hyd) yn egluro eich diddordeb yn y rôl hon, a pham eich bod yn teimlo mai chi yw’r person gorau ar gyfer y cyfle cyffrous hwn.

Rhaid i’ch cais cyflawn ein cyrraedd ni erbyn 12pm, 24 Gorffennaf 2025.

Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd ar 6 Awst 2025.

Os hoffech chi gael trafodaeth anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Philip Barnes, Pennaeth Gwybodaeth am y Sector ar philip.barnes@lshubwales.com.