Defnyddio'r wefan hon

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru sy'n rhedeg y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

• newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
• chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
• llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
• llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
• gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbw hygyrch:

• ni fydd y testun yn ail-lifo mewn i un golofn pan fyddwch yn newid maint ffenestr y porwr
• ni allwch addasu uchder llinell na bylchu testun
• nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin
• nid oes gan ffrydiau fideo byw gapsiynau
• iFrames allanol megis o YouTube a Spreaker

Beth i'w wneud os na allwch gael mynediad i rannau o'r wefan hon

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel print bras, hawdd ei ddarllen, recordio sain neu braille:

• e-bost helo@hwbgbcymru.com
• ffoniwch 02920 467 030

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os na allwch weld y map ar ein tudalen 'cysylltu â ni', ffoniwch neu e-bostiwch ni am gyfarwyddiadau.

Adrodd ar faterion hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â:

• e-bost helo@hwbgbcymru.com
• ffoniwch 02920 467 030

Y weithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi'r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Darganfyddwch sut i gysylltu â ni yma.

Ymweld â ni

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sefydlu sain, cysylltwch â ni cyn eich ymweliad trwy:

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyfyngedig wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan ar gael, yn unol â Rheoliadau Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) Hygyrchedd 2018.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Materion yn ymwneud â PDFs a dogfennau eraill

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cydnabod y gallai dogfennau PDF gyflwyno heriau hygyrchedd i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gallwn felly ddarparu fersiwn Word hawdd ei darllen o unrhyw ddogfennau PDF a ddosberthir, ar eich cais.

Cysylltwch â ni drwy:

Materion yn ymwneud â delweddau, fideo a sain

Nid oes gan ein ffrydiau fideo byw gapsiynau wedi'u hymgorffori fel rhan o safon arferol cynhyrchu
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gweithio gyda'n cyflenwr i fonitro a mynd i'r afael yn barhaus ag unrhyw faterion hygyrchedd a gyflwynir wrth ddatblygu a diweddaru'r wefan yn barhaus.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 22 Medi 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 2 Rhagfyr 2022.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 1 Medi 2022. Cynhaliwyd y prawf gan ein contractwr; S8080.