Mae rhaglen EIDC yn dod â diwydiant, clinigwyr, llunwyr polisïau, academyddion, arloeswyr a chyllidwyr at ei gilydd i greu ecosystem fywiog o arloesedd digidol yn system iechyd a gofal cymdeithasol, gan dargedu gwelliannau posibl o ran: 

  • ansawdd iechyd cleifion a dinasyddion,   

  • effeithlonrwydd a chynaliadwyedd y system,   

  • amodau gwaith gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.  

Mae Rhaglen EIDC yn canolbwyntio ar gamau gweithredu ymarferol, gan gynnull a chysylltu pobl ar draws y sector i’w ‘gwneud hi’n haws ac yn gyflymach mabwysiadu technolegau gofal iechyd.’ 

Rydyn ni’n gweithredu fel brocer, gan ddarparu arweiniad gonest ac agored i’r diwydiant, gan reoli disgwyliadau gyda chwmnïau sy’n gobeithio gwerthu cynnyrch a gwasanaethau gofal iechyd digidol yng Nghymru. Rydyn ni'n eu helpu i ddeall amserlenni caffael gyda GIG Cymru, yn ogystal â deall y prosesau ar gyfer mabwysiadu cynnyrch a gwasanaethau yn GIG Cymru. Rydyn ni'n cefnogi sefydliadau GIG Cymru i ymgysylltu â diwydiant i ddatblygu dealltwriaeth o’r farchnad a helpu i ddatblygu partneriaethau rhwng y GIG, y byd academaidd a diwydiant.  

 Rydyn ni'n rhaglen unigryw yn ein gallu i gysylltu ac ymgynnull ar draws diwydiant, y byd academaidd, a’r sector gofal iechyd i ddarparu syniadau, partneriaid cydweithredol, a chyfeirio sefydliadau i’r cyfeiriad cywir.  

Rydyn ni’n arfogi pobl a sefydliadau, yn codi dyheadau, yn annog pobl i chwilio am yr arferion gorau a’r gorau yn y dosbarth. Rydyn ni’n edrych y tu allan i Gymru, gyda ffocws rhyngwladol a byd-eang, gan gyflwyno’r arloesedd gorau a’r atebion technolegol digidol gorau o bob cwr o’r byd. 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am ein gwaith? Cysylltwch drwy digital@lshubwales.com