-
ExCeL, Llundain

Y digwyddiad hwn yw’r arddangosfa a’r gynhadledd therapi celloedd a genynnau mwyaf yn Ewrop, ac mae’n croesawu gweithwyr ar draws diwydiant, gofal iechyd a’r llywodraeth.

Advanced Therapies event logo

Mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle i wneuthurwyr penderfyniadau fod yn bresennol i drafod sut y gallant fwrw ymlaen â’r datblygiadau yn y maes hwn ac annog pobl i’w fabwysiadu yn ein systemau iechyd. 

 Mae therapïau datblygedig yn faes cyffrous o feddygaeth fanwl sy’n cynnwys therapïau celloedd a genynnau. Mae gan y mathau hyn o driniaeth botensial i allu trwsio, disodli, adfywio ac ail-adeiladu genynnau, celloedd a meinweoedd er mwyn adfer gweithrediad arferol. Gallai triniaethau o’r fath gynnig canlyniadau parhaol neu hyd yn oed gwell i gleifion sydd ag anghenion meddygol heb eu diwallu. 

Mae’r digwyddiad eleni yn cynnwys agenda amrywiol sy’n cynnwys cyflwyniadau, paneli a chyfarfodydd bwrdd crwn. Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys therapi celloedd, therapi genynnau, gweithgynhyrchu, gweithgynhyrchu fectorau feirysol, masnacheiddio, cadwyni cyflenwi a logisteg.  

Rydym wedi partneri gyda’r Gyngres Advanced Therapies ac yn medru cynnig gostyngiad o 50% ar docynnau i gydweithwyr! I sicrhau eich tocyn defnyddiwch y cod LSWALES50 wrth y ddesg dalu. 

 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu?
Cofrestrwch eich lle heddiw!