I archwilio Arloesedd mewn Iechyd a Gwyddor Bywyd ar draws Moroedd Gwyddelig a Cheltaidd, mae CALIN yn cynnal digwyddiad hybrid ym mis Chwefror 2023.

Ym mis Mehefin 2022, cynhaliodd Llywodraeth Cymru Symposiwm Môr Iwerddon, a gydnabu bod arloesi ym maes Iechyd a Gwyddor Bywyd yn faes allweddol o gryfder lle bu llwyddiant gynt ar draws Môr Iwerddon a'r Môr Celtaidd.
Nodwyd bod arloesi ym maes Iechyd a Gwyddor Bywyd yn un o dri maes blaenoriaeth mewn 'Fframwaith arfaethedig ar gyfer cydweithio ar draws gofod Môr Iwerddon' y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu ar y cyd â llywodraethau datganoledig yr Alban a Gogledd Iwerddon, er mwyn hyrwyddo cyfnod newydd o gydweithio.
Er mwyn archwilio hyn ymhellach, mae’r Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN; www.calin.wales) yn cynnal digwyddiad hybrid ddydd Mawrth 28 Chwefror 2023 ar gyfer:
- Archwilio diddordebau a rennir yn y sector Iechyd a Gwyddor Bywyd ar draws Môr Iwerddon a'r Môr Celtaidd.
- Nodi meysydd allweddol o angen yn y sector Gwyddor Bywyd, y gallai Fframwaith Cydweithio Môr Iwerddon eu blaenoriaethu.
- Pennu strategaethau rhagweithiol ar gyfer hwyluso cyfnod newydd o gydweithio yn y dyfodol ar draws Môr Iwerddon a'r Môr Celtaidd.
Caiff y gweithdy hwn ei agor Geraint Green o Lywodraeth Cymru, a bydd sgyrsiau gan gymunedau o randdeiliaid o bob rhan o Iwerddon a Chymru’n dilyn. Ar ôl hyn, bydd grwpiau ymneilltuo â ffocws i drafod blaenoriaethau’r dyfodol, a sut i gyflawni ymagwedd gyfunol a fydd yn adeiladu ar yr hanes hir o gydweithio a chefnogi twf cynaliadwy.