-
Mae CALIN@PrifysgolBangor yn cynnal digwyddiad ar-lein AM DDIM i BBaChau yng Nghymru ac Iwerddon a fydd yn cefnogi busnesau i ddatblygu eu gweithle a gwella iechyd a llesiant.

Mae CALIN, y rhwydwaith gwyddor bywyd uwch, yn cysylltu busnes, y byd academaidd a gofal iechyd ag arbenigwyr o chwe phrifysgol flaenllaw yng Nghymru ac Iwerddon.
Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfres o weithdai gan siaradwyr arbenigol, cyfleoedd rhwydweithio a chydweithio, ynghyd ag ymgynghoriad un-i-un am ddim ar gyfer eich busnes gydag arbenigwr o dîm ymchwil CALIN.
Gweithdai ar-lein am ddim:
- Llesiant yn y gweithle: elw ar fuddsoddiad a chynhyrchiant cynyddol
- Menopos: torri'r tabw
- Hyrwyddo gwaith tim mewn BBaChau: tuag at arferion gwaith effeithiol
- Gwerthfawrogi eich effaith ar iechyd a llesiant: cyflwyniad i elw cymdeithasol ar fuddsoddiad
- Defnyddio gwyddor ymddygiad yn ymarferol
- Dod yn fusnes hygyrch a chyfeillgar i ddementia
- Symud mwy eistedd llai