Rheolwr Caffael
Ymunodd Adam â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn 2020 i fod yn Rheolwr Caffael pwrpasol cyntaf yr Hwb, a chafodd y dasg o ddatblygu a ffurfioli swyddogaeth caffael mewnol y Cwmni ymhellach. Ers hynny, mae wedi parhau i arwain yr holl weithgarwch prynu o ran risg a gwerth canolig i uchel, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o reoli contractau trydydd parti.
Mae gan Adam radd mewn Logisteg a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi, ac mae’n aelod o’r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi. Mae’n weithiwr proffesiynol profiadol ym maes caffael sydd â chefndir rheoleiddio, ar ôl gweithio ar draws y sector cyhoeddus a’r sector cyfleustodau.
Adam sy’n gyfrifol am gaffael, llywodraethu a chydymffurfio, gweithgarwch caffael ffurfiol, rheoli contractau a rheoli risg fasnachol yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.