Arweinydd Prosiect
Mae Aimee yn arweinydd prosiect o fewn y tîm Digidol, Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg, gan ganolbwyntio ar heneiddio’n iachach. Mae Aimee yn edrych ar gyfleoedd sy’n codi o ddiwydiant sy’n cefnogi arloesedd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.
Mae ei rôl yn cynnwys sicrhau bod heriau yn y sector yn cael eu deall a chefnogi rhanddeiliaid allweddol i sefydlu a chwblhau prosiectau. Mae gan Aimee dros 13 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gan ddechrau fel gweithiwr cymorth i oedolion ag anableddau dysgu, cyn cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol ym maes gwasanaethau cymdeithasol i oedolion. Cyn ymuno â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, treuliodd Aimee y 4 blynedd diwethaf yn rheoli gwasanaethau rheng flaen yn y gymuned, gan gynnwys gofal cartref a thechnoleg gynorthwyol.
Mae gan Aimee radd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol, NVQ lefel 5 mewn Gofal Cymdeithasol ac mae'n parhau i fod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
