Prif Swyddog Gweithredol
Mae Cari-Anne yn Brif Swyddog Gweithredol yma yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru; mae’n arwain ein tîm i roi hwb i ddatblygiadau arloesol hanfodol ym maes gwyddorau bywyd i reng flaen iechyd a gofal cymdeithasol.
Gyda chyfoeth o arbenigedd sy’n cwmpasu gwyddorau bywyd ac economeg, mae Cari-Anne wedi bod yn allweddol i ysgogi trawsnewid drwy ddatblygu ar raddfa ryngwladol gyda’i gwaith yn Awdurdod Datblygu Cymru. Yn ogystal, bu’n arwain gwaith Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â busnesau ar gyfer y sector gwyddorau bywyd gydag adran yr economi, lle mae ei chyfraniad wedi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o feithrin prosiectau gwyddorau bywyd blaenllaw.
Mae Cari-Anne hefyd yn frwd dros ysgogi datblygiadau yn y gweithlu yng Nghymru fel Cyfarwyddwr Canolfan Ansawdd Cymru, sy’n sefydliad elusennol sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau busnes.