Pennaeth Datblygu Economaidd
Mae Gareth yn dod â chyfuniad unigryw o arbenigedd i’n tîm, gan gyfuno gwyddoniaeth, strategaeth a rheoli rhaglenni. Fel Pennaeth Datblygu Economaidd, mae Gareth yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid ar draws Cymru, gan feithrin twf ein sector gwyddorau bywyd, a helpu i lunio dyfodol gofal iechyd ar yr un pryd. Mae’n arwain mentrau Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i sbarduno twf economaidd yng Nghymru drwy osod y GIG a gofal cymdeithasol yng nghanol datblygu ecosystem gwyddorau bywyd.
