Dadansoddwr Marchnad Gofal Iechyd
Ar hyn o bryd, mae Kieran yn gweithio fel Dadansoddwr Marchnad Gofal Iechyd yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Yn dilyn gradd meistr ym Mhrifysgol Sheffield mewn MA Gwleidyddiaeth, Llywodraethiant a Pholisi Cyhoeddus, dechreuodd weithio fel Dadansoddwr Diwydiant Gofal Iechyd. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Kieran wedi canolbwyntio ar nifer o farchnadoedd gofal iechyd, gan gynnwys marchnadoedd cyflenwi cyffuriau, oncoleg, CNS a chyffuriau awto-imiwn, marchnadoedd gofal iechyd ym Mrasil, y Ffindir, y Weriniaeth Tsiec, Chile a Costa Rica, ac ar ddiwydiannau cyffuriau generig ac awto-imiwn. Mae Kieran hefyd wedi craffu ar risg wleidyddol a’r ffordd mae’n rhyngweithio â maes gofal iechyd, ar ôl rhoi sylw cynhwysfawr i Etholiad 2020 yr Unol Daleithiau, gyda ffocws penodol ar ei effaith ar farchnadoedd gofal iechyd, fferyllol a dyfeisiau meddygol. Bydd Kieran yn defnyddio ei brofiad o arolygu marchnadoedd iechyd i ddarparu dadansoddiad hanfodol ar gyfer y rhaglen Cyflymu.