Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau
Fel Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau, mae Miriam yn arwain y tîm Gweithrediadau ar bob agwedd ar Adnoddau Dynol, Llywodraethu, Risg, Caffael, Cyfleusterau, TG ac, wrth gwrs, Cyllid. Mae’n Gyfrifydd Siartredig cymwysedig ac mae hefyd wedi cwblhau cymwysterau mewn Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus a Gwell Achosion Busnes. Mae gan Miriam brofiad ar draws y sector cyhoeddus o fewn cyllid, risg, systemau corfforaethol a gwelliant parhaus ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol gan gynnwys cyllid, Adnoddau Dynol a chaffael.