Arweinydd Gwybodaeth Sector
Mae rôl Sarah yn canolbwyntio ar ddatblygu a darparu deallusrwydd a gwasanaethau ariannu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, er mwyn sicrhau’r cymorth ariannol mwyaf posibl ar gyfer arloesi ym maes iechyd a gofal yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwaith ymchwil, dadansoddi a chasglu gwybodaeth am y sector i gefnogi’r gwaith o nodi cyfleoedd ariannu sy’n cyd-fynd ag anghenion nas diwallwyd o fewn GIG Cymru, gan alluogi’r ymgeiswyr gorau i gysylltu â’r rhain, a chefnogi ymgeiswyr drwy brosesau ariannu. Prif faes arbenigedd Sarah yw cyllid grant. Ar ôl cwblhau ei PhD, bu’n gwneud gwaith ôl-ddoethurol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd cyn symud i faes rheoli grantiau a phrosiectau ym maes gwyddorau bywyd a ffisegol, gan gwmpasu’r sectorau academaidd, diwydiannol a chlinigol. Cyn ymuno â’n sefydliad, bu’n gweithio fel Arbenigwr Grantiau yn darparu grantiau cyllid cyfunol a ariannwyd gan y llywodraeth i fusnesau yng Nghymru. Mae Sarah wedi cymhwyso yn PRINCE2 a Chyllid Cynaliadwy ac mae ganddi ddiddordeb gweithredol mewn rheoliadau cymhorthdal.
