Ymunwch â Chonffederasiwn y GIG yn Leeds wrth iddynt ddod ag arweinwyr at ei gilydd i drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector iechyd meddwl.

Bydd Arddangosfa a Chynhadledd Flynyddol y Rhwydwaith Iechyd Meddwl 2025 yn dod ag uwch arweinwyr o’r sector iechyd meddwl, anabledd dysgu ac awtistiaeth at ei gilydd ar gyfer trafodaethau bywiog ar ddyfodol gwasanaethau, i rannu arferion da, sganio’r gorwel, a chydweithio gyda chymheiriaid.
Mae’r Cynllun Iechyd 10 Mlynedd a’r diwygiadau hirddisgwyliedig i’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn gyfle i sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu. Bydd y gynhadledd hefyd yn canolbwyntio ar rai o’r themâu allweddol sydd bwysicaf i aelodau, a gall hyn helpu’r llywodraeth i symud tuag at waith ataliol, cymunedol a digidol.