Wedi’i drefnu gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn partneriaeth â’r Academi Gwyddorau Meddygol, mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Draws-Sector y DU gyfan a bydd yn hyrwyddo dulliau cydweithredol o wella canlyniadau canser a phrofiadau gofal.

Beth i’w ddisgwyl
Sgyrsiau ysbrydoledig gan arweinwyr clinigol, ymchwilwyr a chynrychiolwyr cleifion
Sesiynau grŵp rhyngweithiol sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â rhai o’r blaenoriaethau arloesi allweddol ym maes canser yng Nghymru
Cyfleoedd i rwydweithio gyda chyfoedion a darpar gydweithredwyr
Trafodaethau panel am flaenoriaethau arloesi a chyfeiriad Cymru yn y dyfodol
Lansio Cronfa Sbarduno 2025/26 i gefnogi datblygiad syniadau a chydweithio
Pam mynychu?
Clywed wrth arweinwyr clinigol a hyrwyddwyr ynglŷn â’r blaenoriaethau ar gyfer arloesedd ym maes canser ledled Cymru
Cyfle i gyfrannu at gynlluniau i fabwysiadu arloesedd mewn meysydd o flaenoriaeth
Cysylltu ag eraill sydd wedi ymrwymo i arloesi’n gydweithredol ym maes gofal canser
Pwy ddylai fynychu?
Boed yn glinigwr, ymchwilydd, arloeswr, gwneuthurwr polisi, neu eiriolwr cleifion, y digwyddiad hwn yw eich cyfle i gysylltu, cydweithio a chyfrannu at gynlluniau sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau allweddol ar gyfer Cymru.
Gyda'n gilydd, byddwn yn rhoi cydweithio ar waith ar draws y sector.