Trydydd parti
,
-
,
Future Space, Bristol
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiadau BioCymru a gynhaliwyd yn flaenorol yn Rhydychen a Llundain, bydd MediWales yn cynnal digwyddiad BioCymru ym Mryste ar 23 Ionawr, 2025.
Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar archwilio’r cydweithrediadau sydd eisoes yn bodoli, a chydweithrediadau newydd posib, rhwng Cymru a De-orllewin Lloegr. Mae’r digwyddiad BioCymru ym Mryste yn cael ei gynnal gan Medilink South West ar y cyd â Future Space. Bydd y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau ar bynciau allweddol fel:
- Cyllid yng Nghymru a De-orllewin Lloegr
- Cymorth sydd ar gael i fusnesau newydd
- Cysylltiadau â buddsoddwyr
- Cyflwyniadau gan fusnesau
- Cyfleoedd ymchwil a mynediad clinigol
- Gallu gweithgynhyrchu