,
-
,
Swansea Arena, SA1 3BX

BioMedEng yw’r cynulliad mwyaf o beirianwyr biofeddygol, peirianwyr meddygol a biobeirianwyr yn y DU. Caiff cynhadledd flynyddol 2023 ei chynnal gan Brifysgol Abertawe ddydd Iau 14 a dydd Gwener 15 Medi yn Arena Abertawe.

Swansea Campus

Mae Cymdeithas BioMedEng yn cynrychioli ystod hynod helaeth o raglenni amlddisgyblaethol sy'n defnyddio offer a thechnegau peirianyddol i ddatrys problemau sy'n deillio o fioleg a meddygaeth.

Gallwch ddisgwyl mwynhau sesiynau trafod llawn, anerchiadau gan siaradwyr gwadd, gweithdai ymneilltuo, sesiynau posteri, sesiynau am ymchwil gyrfa gynnar a llawer mwy.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu?
Cofrestrwch eich lle heddiw!