Mae’r OBN yn cynnal eu cynhadledd ddeuddydd ar gyfer y diwydiant gwyddorau bywyd ar 1 a 2 Ebrill 2025 yn Llundain.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys dwy ffrwd o gyflwyniadau arddangos gan gwmnïau ymchwil a datblygu ar lwyfannau Cyfres A, ar draws 14 o feysydd therapi gwahanol, arddangosfa noddwyr, digwyddiadau rhwydweithio a chyflwyniad posteri academaidd.
BioTrinity, sydd bellach yn ei 19ed flwyddyn, yw cynhadledd ddeuddydd flaenllaw OBN ar gyfer y diwydiant gwyddorau bywyd, wedi’i bwriadu i ysgogi twf i bawb sy'n mynychu. Mae rhaglen y gynhadledd ddeuddydd ar gyfer 2025 yn cynnwys dwy ffrwd o gyflwyniadau arddangos gan gwmnïau ymchwil a datblygu o gwmpas llwyfan Cyfres A, ar draws 14 maes therapi gwahanol, ffrwd busnes a buddsoddi llawn dop, arddangosfa noddwyr, digwyddiadau rhwydweithio, cyfarfodydd partneru preifat a chyflwyniad posteri academaidd.
Ar ôl gwerthu allan eto yn 2024, rydym yn disgwyl i gynulleidfa ehangach, frwdfrydig o tua 900 o gynadleddwyr fynychu BioTrinity 2025, sy’n cynnwys cymysgedd o gwmnïau ymchwil a datblygu gwyddorau bywyd cynnar a newydd, buddsoddwyr, cwmnïau fferyllol mawr, academyddion, elusennau, llywodraeth, ac amrywiaeth eang o ddarparwyr gwasanaethau gwerthfawr. Mae cynrychiolwyr yn dod o'r DU, Ewrop, UDA, Japan, Tsieina, Awstralia a’r tu hwnt, ac mae'r tîm yn croesawu trafodaeth gyda chlystyrau i drafod eu gofynion dirprwyo.