Ymunwch ar 12 Mawrth 2025 ar gyfer digwyddiad blynyddol MediWales BioWales yn Llundain mewn partneriaeth â Canary Wharf Group.

Mae sector gwyddorau bywyd Cymru yn ecosystem ffyniannus a deinamig ac, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf, cafwyd datblygiadau sylweddol o ran arloesedd clinigol, technoleg feddygol a diagnosteg.
Mae'r digwyddiad hwn yn cynnig llwyfan unigryw ar gyfer arloesiadau a chwmnïau newydd cyffrous sy'n chwilio am fuddsoddiad a chydweithrediadau. Gyda chyflwyniadau gan amrywiaeth o gwmnïau o Gymru ar wahanol gamau o’u taith fel buddsoddwr, a phanel arbenigol o fuddsoddwyr. Bydd y digwyddiad hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd cydweithio ymchwil ac arloesedd y GIG, gan drafod mynediad clinigol, mabwysiadu a threialon clinigol.