Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
,
-
,
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, 3 Assembly Square, Caerdydd, CF10 4PL

Bydd y digwyddiad hwn, sy’n cael ei gynnal ar y cyd ag Academi'r Gwyddorau Meddygol, yn casglu ynghyd arloeswyr ac ymchwilwyr o wahanol feysydd gyrfa i drafod canfod a gwneud diagnosis o ganser yn gynnar. 

AMS

Mae Rhaglen Traws-Sector Academi’r Gwyddorau Meddygol wedi’i dylunio i hybu arloesedd ym maes iechyd drwy ddod ag arloeswyr ac ymchwilwyr traws-sector ynghyd drwy ddigwyddiadau rhwydweithio a chynllun cyllido cydweithredol.

Bydd ein digwyddiad, sy’n cael ei gynnal ar y cyd ag Academi'r Gwyddorau Meddygol, yn casglu ynghyd arloeswyr ac ymchwilwyr o wahanol yrfaoedd a meysydd i drafod canfod a gwneud diagnosis o ganser yn gynnar.

Bydd y digwyddiad hwn yn tynnu sylw at fanteision cydweithio ar draws sectorau i ganfod a gwneud diagnosis o ganser yn gynnar, ac yn pwysleisio’r angen i bob sector gydweithio i greu atebion cynaliadwy, gan wella ansawdd gofal ar hyd a lled Cymru yn y pen draw.

Beth i’w ddisgwyl:

  • Cyflwyniadau ar y Rhaglen Traws-Sector a hybiau rhwydweithio gan Academi'r Gwyddorau Meddygol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
  • Trafodaethau bwrdd a chyfleoedd i rwydweithio.
  • Amser ychwanegol i rwydweithio â chyfranogwyr eraill er mwyn canfod meysydd sydd o ddiddordeb cyffredin ac archwilio cysylltiadau pellach, a chyfleoedd posib i gydweithio.

Agenda:

AMSER EITEM SIARADWR MANYLION
0930 - 1000 Cofrestru a lluniaeth
1000 - 1010 Croeso Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Croeso a throsolwg o weithio mewn partneriaeth i arloesi a mabwysiadu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rhannu strwythur a phwrpas y diwrnod.
1010 - 1020 Trosolwg ac amlinelliad o'r sesiwn Academy of Medical Sciences Cyflwyniad i’r Rhaglen Traws Sector mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
1020 - 1045 Gwib-gyflwyniadau Pawb Byddwn yn dechrau gyda Gwib-gyflwyniadau, sef profiad rhwydweithio deinamig sydd wedi’i lunio i feithrin cysylltiadau ystyrlon. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael cyfle i rwydweithio a chymryd rhan mewn sgyrsiau bywiog wrth iddyn nhw symud o fwrdd i fwrdd, gan gwrdd â phobl eraill sy’n bresennol.
1045 - 1100 Sgwrs  Julie Hepburn Cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil canser - gweithio gyda'r cyhoedd nid ar eu cyfer.
1100 - 1115 Sgwrs  Annie Dahl, Rheolwr Arloesi – Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan Macmillan: Ein gwaith wrth ganfod yn gynnar a sut i weithio gyda ni.
1115 - 1140 Rhwydweithio dros baned
1140 - 1155 Sgwrs  Sian Morgan: Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Labordy a Magdalena Meissner: Arweinydd Biopsi Hylif Clinigol, Gwasanaethau Genomeg Meddygol Cymru Gyfan Arddangos y prosiect QuicDNA.
1155 - 1210 Sgwrs  Adam Bryant: Prif Weithredwr a Sylfaenydd CanSense Trawsnewid Diagnosis Canser: Biopsi hylif AI i ganfod canser y coluddyn yn gynnar.
1210 - 1225 Sgwrs  Dr Elizabeth Sharkey: Meddyg Arbenigol, Tîm Archwiliadau Iechyd yr Ysgyfaint Yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun peilot gweithredol ar gyfer Archwiliadau Iechyd yr Ysgyfaint yng Nghymru.
1225 - 1240 Sgwrs  Gabriel Lambert: Cyfarwyddwr Datblygu Masnachol a Chlinigol, TidalSense N-Tidal Diagnose: Y potensial i gefnogi Archwiliadau Iechyd yr Ysgyfaint
1240 - 1310 Sgwrs  Sesiwn panel Yr Athro Nicholas Rich: Athro Dylunio Systemau Cymdeithasol-Dechnegol ym Mhrifysgol Abertawe a Peter Bannister: Rheolwr Gyfarwyddwr yn Romilly Life Sciences.
1310 - 1315 Diolchiadau a sylwadau clo gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Academy of Medical Sciences.
1315 - 1430 Rhwydweithio dros ginio ysgafn.

 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu?
Cofrestrwch eich lle heddiw!