Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio’n bennaf ar ddeallusrwydd artiffisial ym maes Canser, ond bydd hefyd yn cynnwys diweddariad ar y Cynllun Mynd i’r Afael â Chanser, y rhaglen sy’n cael ei datblygu er mwyn cynyddu gweithgaredd treialon masnachol, a VPAG yng Nghymru, Therapi Gwrth-ganser Systemig, a sesiynau gweithgor.

Mae’r Fforwm Diwydiant yn gweithredu fel rhyngwyneb rhwng diwydiant, Rhwydwaith Canser Cymru a’i grwpiau rhanddeiliaid ehangach.
Prif bwrpas y Fforwm Diwydiant yw darparu dull ychwanegol o ymgysylltu rhwng sefydliadau fferyllol, sefydliadau biotechnegol, a sefydliadau masnachol eraill, a’r GIG yng Nghymru.
Mae’n ffordd o sicrhau cyfathrebu tryloyw a chynrychiolaeth ar draws y sector, ac o gydlynu’r nodau strategol a’r adnoddau yn y sector drwy bartneriaeth a gweithio ar y cyd.