Trydydd parti
,
-
,
MediWales, Caerdydd

Bydd y digwyddiad hwn yn dod ag arweinwyr barn allweddol a rhanddeiliaid sy’n gweithio ym maes meddygaeth fanwl yng Nghymru at ei gilydd i rannu gwybodaeth, rhwydweithio, cyd-weithio ac i greu cymuned. 

A scientist in a lab, looking through a microscope

Yn y digwyddiad bydd trafodaeth banel, sesiynau rhyngweithiol i grwpiau, a sgyrsiau addysgiadol ar bynciau megis rheoleiddio, meithrin gofal iechyd fanwl, a’r rhwystrau sy’n ein hwynebu wrth gael gafael ar ddata.  Bydd digon o amser hefyd i rwydweithio. Cynhelir y digwyddiad gan MediWales yng nghanolfan Maltings. Mae gan Maltings faes parcio i ymwelwyr a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hwylus. Mae’r lleoliad yn hygyrch a bydd cinio’n cael ei ddarparu.

Ydy’r digwyddiad hwn yn addas i mi?  

Mae’r digwyddiad hwn yn berffaith ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym maes meddygaeth fanwl yn un o’r canlynol:  

  • Busnes bach a chanolig
  • Prifysgol neu fusnes sy’n deillio o brifysgol
  • Y sector gyhoeddus
  • Y GIG
  • Rheoleiddiwr 

Archebwch eich lle.