Trydydd parti
,
-
,
Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd CF10 4BZ
Mae Comisiwn Bevan llawn cyffro i gyflwyno cyfres 'Learning Together' - gan ddechrau gyda digwyddiad bord gron ar 7 Ebrill yng Nghaerdydd.

Pam dod?
- Dysgu gan Arbenigwyr: Clywed astudiaethau achos gan Paul Billington (Aelod Cysylltiol o'r CIPD), Partner Pobl (Iechyd a Lles) yn Admiral Group Plc, Rachel Fleri - Perchennog a Rheolwr-gyfarwyddwr Specialist Security Co. Ltd, Gus Williams, Prif Weithredwr Chambers Wales De-ddwyrain, De-orllewin a’r Canolbarth, a mwy. Deall tueddiadau a strategaethau allweddol.
- Cyfnewid Profiadau: Rhannu heriau a'r atebion iddynt â chymheiriaid.
- Rhwydweithio a chreu Partneriaethau: Cysylltu ag arweinwyr diwydiant a sefydliadau cymorth.
- Cyfrannu at Lyfryn Arfer Gorau: Bydd eich mewnwelediadau'n helpu i lunio adnodd gwerthfawr i aelodau’r CBI.
Beth sydd ar yr Agenda?
- Cyflwyniadau Astudiaeth Achos: Dysgwch gan enghreifftiau byd go iawn.
- Trafodaethau Bwrdd Crwn: Cydweithiwch ar atebion i heriau cyffredin megis rhwystrau i gefnogi iechyd a lles, materion iechyd a lles cyffredin, adnoddau cymorth defnyddiol, a nodi pwyntiau allweddol y gellir gweithredu arnynt.
- Canlyniadau: Arweiniad ymarferol, llyfryn arfer gorau sydd wedi'i gyhoeddi, llywio polisi a chynyddu cydweithredu.
Pwy ddylai ddod?
Uwch-arweinwyr busnesau sy'n awyddus i greu gweithlu mwy iach a chynhyrchiol.
Diddordeb mewn mynychu?