Trydydd parti
,
-
,
Ar-lein

Ymunwch â GIG Lloegr ar gyfer cynhadledd rithwir nodedig sy'n archwilio'r defnydd cyfrifol ac arloesol o ddeallusrwydd artiffisial yn y maes addysg gofal iechyd.

A man in a grey jumper looking at a laptop, he is wearing headphones

Daw’r Gynhadledd AI Cyfrifol mewn Addysg Gofal Iechyd y Pedair Gwlad ag addysgwyr, hyfforddwyr ac arweinwyr o bob cwr o'r DU at ei gilydd i rannu gwybodaeth, arferion gorau a meddwl gweledigaethol. 

Boed yn newydd i AI neu'n ymarferydd profiadol, mae'r digwyddiad hwn yn cynnig rhaglen gyfoethog o’r prif sesiynau, gweithdai rhyngweithiol, a thrafodaethau panel sydd wedi'u cynllunio i gefnogi datblygiad proffesiynol a dysgu cydweithredol. 

Ar agor i bob addysgwr, hyfforddwr ac arweinydd addysg gofal iechyd ledled y DU.

Awydd ymuno?