Trydydd parti
,
-
,
M-SParc, Gaerwen LL60 6AG
Dwyn ynghyd arloeswyr, sefydlwyr busnes, llunwyr polisi, a chyllidwyr i archwilio cefnogaeth a chyfleoedd i fusnesau yng ngogledd Cymru.

Gyda rhaglen lawn o siaradwyr arbenigol, paneli trafod, a gweithdai rhyngweithiol, bydd y digwyddiad hwn yn gyfle unigryw i gysylltu, dysgu, ac ysbrydoli.
Bydd y dydd yn cynnwys:
- Cyflwyniadau gan ffigurau blaenllaw ym maes cyfathrebu, cyllid, arloesi, a chreu busnes
- Paneli trafod ar gymorth busnes a sectorau iechyd
- Straeon gonest gan sylfaenwyr am y wers wnaeth wneud y gwahaniaeth
- Cyflwyniadau ar Eiddo Deallusol, grantiau a chefnogaeth gan Brifysgol Bangor ac eraill
- Rhwydweithio anffurfiol dros ginio a BBQ diwedd y dydd
Os ydych yn entrepreneur, cynghorydd busnes, buddsoddwr neu'n rhan o'r ecosystem fusnes yng ngogledd Cymru – dyma’r lle i fod!
Diddordeb mewn mynychu?