Trydydd parti
,
-
,
Swansea Arena, Swansea

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dod at ei gilydd i gydweithio unwaith eto ar Gynhadledd a Seremoni Wobrwyo Cynaliadwyedd GIG Cymru.  

A person speaking at a conference to a group of people

Dyma’r ail flwyddyn i Gynhadledd a Seremoni Wobrwyo Cynaliadwyedd GIG Cymru gael ei chynnal, ac eleni mae trefniadau mawr ar ei chyfer! Mae darparu system gofal iechyd gynaliadwy yn bwysicach nag erioed. Mae’r digwyddiad hwn wedi ei ddylunio gan y rhai sy’n mynd i’r afael â'r heriau hyn a byddan nhw’n rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr a phartneriaid ym mhob rhan o Gymru. Mae cydweithio ag eraill ar draws y system yn hollbwysig er mwyn datblygu’n gynt a gwarchod y rhai sy’n debygol o gael eu heffeithio gan risgiau newid hinsawdd.

Bydd sesiynau diddorol a fydd yn canolbwyntio ar y bylchau yng ngweithdrefnau cynaliadwyedd GIG Cymru yn y gobaith o ychwanegu at y neges a gafwyd yn y digwyddiad cyntaf, yn ogystal â darparu canlyniadau gwirioneddol. 

Archebwch eich lle.