Trydydd parti
,
-
,
Cardiff Metropolitan University, Llandaff Campus Western Avenue, Cardiff CF5 2YB

Mae’r Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Llesiant (CAWR) yn cynnal ei chynhadledd flynyddol i ddathlu Ymchwil ac Arloesedd: Gwneud gwahaniaeth – arloesi i gefnogi iechyd a llesiant.

A lecture room full of people

Mae’r digwyddiad rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol hwn yn rhad ac am ddim, a bydd yn arddangos y gwaith ymchwil ac arloesi y mae Met Caerdydd, eu partneriaid yn y Deyrnas Unedig, a’u partneriaid rhyngwladol yn ei wneud ym maes iechyd, gweithgarwch a llesiant. 

Bydd y gynhadledd hefyd yn gyfle i rwydweithio â phobl eraill sy’n gweithio, yn astudio, neu sydd â diddordeb ym maes amrywiol iechyd gweithgarwch a llesiant. Bydd y digwyddiad o ddiddordeb i fyfyrwyr, ymchwilwyr, ac ymarferwyr. Mae’r gynhadledd eleni yn rhoi sylw i arloesi er mwyn cefnogi iechyd a llesiant.

Mae rhaglen y gynhadledd yn caniatáu digon o amser i glywed am waith ymchwil ac i rwydweithio â chynadleddwyr eraill. Mae croeso cynnes i gynrychiolwyr o'r tu allan i Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Diddordeb mewn mynychu?