Trydydd parti
-
Bilbao, Gwlad y Basg, Sbaen

Ymunwch â'r gynhadledd ddeuddydd hon i ddarganfod sut i harneisio gwerth technolegau digidol arloesol.

A blonde woman speaking to a lecture hall full of people

Mae trawsnewid systemau iechyd yn ddigidol yn gyfle ac yn ffactor allweddol o ran llwyddiant i fynd i’r afael â heriau fel cynaliadwyedd, gofal sy’n rhoi gwerth gwell am arian, a gwella canlyniadau iechyd. Mae’r newid hollbwysig hwn ar lefel systemig yn fater brys, ond mae’n dal i ddatblygu’n llawer rhy araf.

Mae Cynhadledd Flynyddol i~HD eleni yn canolbwyntio ar drawsnewid iechyd digidol yn deg, yn integreiddiol ac yn seiliedig ar werth

Cewch gyfle i wrando ar gyflwyniadau gan siaradwyr gwadd, cymryd rhan mewn trafodaethau panel a gweld arddangosiadau byw. Bydd cyfle hefyd i chi ddysgu gan nifer o brosiectau Ewropeaidd, gan gynnwys y prosiect ADLIFE a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd ac sydd wedi datblygu ac arddangos blwch offer digidol i glinigwyr, cleifion a rhoddwyr gofal ar gyfer grymuso cleifion a chydweithio amlddisgyblaethol.

“Mae trawsnewidiad digidol yn golygu mwy na phrynu technoleg, mae hefyd yn ffordd o greu newid systematig yn y ffordd y mae sefydliadau gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol yn darparu gofal ac yn cydweithio â’i gilydd a chyda chleifion.”

Dyma’r themâu allweddol ar gyfer y prif areithiau a’r trafodaethau panel:

  • Cynaliadwyedd a gwydnwch i sicrhau systemau iechyd cryfach a gwella canlyniadau i gleifion
  • Grymuso cleifion a thegwch drwy iechyd digidol
  • Gofynion technegol ac arddangosiadau o atebion digidol arloesol
  • Datblygu strategaethau a’r heriau cysylltiedig
  • Mabwysiadu technolegau digidol yn gyflym, gan gynnwys modelau ad-dalu arloesol.

Y gynhadledd hon yw eich cyfle i gysylltu, dysgu a chyfrannu. Byddwch yn barod i ofyn eich cwestiynau i'r panelau o’ch dewis a mwynhau dinas wych Bilbao! 

Dewch o hyd i’r rhaglen a chofrestrwch yma.