Trydydd parti
-
Clwb Criced Morgannwg, Caerdydd

Y Gynhadledd Genedlaethol ar Ofal Cymdeithasol yw’r cyfle mwyaf blaenllaw i arddangos a rhwydweithio ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

A social worker painting with their service user

Mae’r gynhadledd yn gyfle i uwch arweinwyr a darpar arweinwyr ym maes gofal cymdeithasol ddod ynghyd â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn llywodraeth leol a chenedlaethol, y sector preifat a’r trydydd sector, arbenigwyr drwy brofiad, a myfyrwyr gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

 Bydd y digwyddiad eleni yn archwilio’r thema, ‘Trawsnewid: Sut mae Cyflawni Mwy, Gyda’n Gilydd’. Bydd cyfleoedd i rannu enghreifftiau o sut gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod ein hadnoddau’n cael yr effaith fwyaf ystyrlon ar yr unigolion a’r cymunedau ledled Cymru, boed hynny drwy bartneriaethau arloesol ar draws y sector preifat a’r trydydd sector, neu drwy weithio gyda darparwyr technoleg mewn ffyrdd creadigol ac arloesol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys sgyrsiau ysbrydoledig a phaneli a gweithdai rhyngweithiol, ac mae’n canolbwyntio’n benodol ar gynyddu lleisiau pobl sydd â phrofiad bywyd, ochr yn ochr â rhannu arferion gorau ac arloesedd. Bydd hefyd man arddangos bywiog a digon o gyfleoedd i rwydweithio a mwynhau sgwrs ddifyr.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu?
Cofrestrwch eich lle heddiw!