Ym mis Hydref eleni, bydd Public Policy Projects (PPP) yn cynnal cyfres o drafodaethau hanfodol am bolisi a fydd yn denu uwch arweinwyr o faes gofal canser.

Bydd Cynhadledd Gofal Canser PPP 2025 yn adeiladu ar y digwyddiadau blaenorol ac yn edrych ar y newyddion diweddaraf o faes gofal canser yn 2025. Yn ystod y gynhadledd bydd areithiau gan siaradwyr gwadd a thrafodaethau panel a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygiadau allweddol ym maes polisi canser, enghreifftiau o arferion gorau a strategaethau i wella canlyniadau i gleifion.
Yn ystod y gynhadledd, bydd y cynadleddwyr yn cael cyfle i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol o'r un maes â nhw sydd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn canser. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i unigryw i chwalu seilos gwybodaeth a chael y wybodaeth ddiweddaraf am arloesedd ym maes gofal canser.
Bydd y Gynhadledd Gofal Canser yn trafod amrywiaeth eang o ddatblygiadau ym maes polisi canser a’r ddarpariaeth gofal, gan gynnwys protocolau sgrinio a’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn diagnosteg. Bydd arbenigwyr profiadol, gan gynnwys Peter Johnson, y Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol dros Ganser yn GIG Lloegr, yn rhannu gwybodaeth arbenigol a blaengar am y diwydiant.