Trydydd parti
,
-
,
Pafiliwn Montgomery, Llanfair-ym-Muallt, Powys, LD2 3SY

Ydych chi'n weithiwr iechyd a gofal proffesiynol, academydd, ymarferwr, yn glaf neu'n aelod o'r cyhoedd sydd â diddordeb mewn iechyd, lles a gofal gwledig?

A red stethoscope outdoors next to grass

Ymunwch ag Iechyd a Gofal Gwledig Cymru ar gyfer eu cynhadledd flynyddol i drafod darparu a datblygu gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau iechyd a gofal mewn ardaloedd gwledig ar 14 a 15 Tachwedd 2023.

Gallwch chi fynychu'r gynhadledd yma mewn person neu ar-lein.

Bydd y gynhadledd yn sôn am:

  • Darparu gwasanaethau Iechyd a Gofal Integredig mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys gwaith traws-sector, amlasiantaethol a / neu amlddisgyblaethol
  • Rôl Cymunedau Gwledig a Gofalwyr di-dâl mewn Iechyd a Gofal
  • Datblygiadau mewn Deallusrwydd Artiffisial (AI), Teleiechyd / Telefeddygaeth a darparu gwasanaethau Iechyd a Gofal o bell mewn Ardaloedd Gwledig
  • Pesgripsiynu Cymdeithasol / Gwyrdd ac effaith Celf, Crefftau ac ymyriadau anghlinigol eraill ar Iechyd a Lles
  • Recriwtio a Chadw gweithwyr proffesiynol Iechyd a Gofal mewn Ardaloedd Gwledig
  • Addysg, Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gweithwyr Iechyd a Gofal proffesiynol sy’n gweithio mewn ardaloedd gwledig

Rhwng 4:30pm a 6:30pm ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd bydd Cyfarfod yr Hydref Cydbwyllgor Canolbarth Cymru, a fydd hefyd yn gyfarfod hybrid. Bydd y cyfarfod hwn yn cynnwys cyflwyniadau a diweddariadau ar flaenoriaethau a chynllun cyflawni’r Pwyllgor, a sesiwn ‘Gwrando arnoch Chi’ a fydd yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd ofyn cwestiynau i aelodau’r Cydbwyllgor am eu cyflwyniadau.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfarfod y Pwyllgor, cysylltwch â Chydbwyllgor Canolbarth Cymru drwy e-bost ar mwjc@wales.nhs.uk.

 

Diddordeb mewn mynychu Cynhadledd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru 2023?