Trydydd parti
,
-
,
Cavendish Conference Centre, 22 Duchess Mews, London W1G 9DT

Bydd Cynhadledd Technoleg Iechyd y DU ABHI yn archwilio’r themâu pwysicaf sy’n dylanwadu ar ein diwydiant, gan ganolbwyntio ar fynediad i farchnad y DU a rheoleiddio.

A group of people speaking at an event

Mae’r digwyddiad hwn, sydd wedi’i gynllunio er mwyn rhoi dealltwriaeth glir o’r dirwedd genedlaethol i’ch busnes, yn dod ag arbenigwyr blaenllaw, llunwyr polisïau, a phobl o’r diwydiant at ei gilydd am ddau ddiwrnod o fewnwelediad, trafodaeth, a rhwydweithio gwerthfawr.

Mae gan y DU uchelgais i gael ei gweld fel y lle mwyaf atyniadol yn y byd i lansio a thyfu arloesiadau Technoleg Iechyd. Er hyn, mae’r llwybr tuag at fabwysiadu yn parhau’n gymhleth, ac mae gofynion rheoleiddiol yn rhwystr mawr i lawer o hyd. 

Gan ymateb yn uniongyrchol i hyn, bydd Cynhadledd 2025 yn gyfle i blymio’n ddwfn i’r materion hollbwysig hyn – tynnu sylw at y datblygiadau polisi diweddaraf a chynnig llwyfan ar gyfer ymgysylltu’n uniongyrchol â’r unigolion a’r sefydliadau sy’n hybu newid.

Diddordeb mewn mynychu?