Trydydd parti
-
Titanic Belfast, 1 Olympic Way, Belfast BT3 9EP
Bydd Cynhadledd Wanwyn Technoleg Iechyd, digwyddiad sy’n ddau ddiwrnod o hyd, yn digwydd ym Melffast ar 7 ac 8 Ebrill 2025. Cynhelir y digwyddiad gan Gynghrair Ymchwil ac Arloesi ym maes Iechyd, Gogledd Iwerddon, (HIRANI).
Bydd y gynhadledd yn cynnwys partneriaid lleol a rhyngwladol ac yn canolbwyntio ar ddwy elfen:
- ecosystemau digidol er mwyn integreiddio diagnosteg a therapiwteg; a
- dyluniad sydd wedi ei seilio ar gymuned a phobl er mwyn cyflymu arloesedd a’r broses o fabwysiadu technoleg iechyd.
Bydd digwyddiad 2025 yn cynnwys diwrnod 'Gwyddorau Bywyd, Cynnal Bywyd' ar gyfer busnesau sy’n darparu gwasanaethu cymorth i’r diwydiant gwyddorau bywyd. Gyda pharthau a fforymau arloesi, digwyddiadau ‘cwrdd â'r claf’, siaradwyr byd-eang ac arweinwyr syniadau lleol, mae Cynhadledd Wanwyn Technoleg Iechyd 2025 yn addo dal ati i gryfhau’r pwerdy gwyddorau bywyd yng Ngogledd Iwerddon.
Diddordeb?