Trydydd parti
-
National Imaging Academy Wales, Pencoed Business Park, Pencoed, CF35 5HY

Yng Nghynhadledd y Rhaglen Ddelweddu Genedlaethol 2024, byddwch yn barod i gysylltu â rhanddeiliaid, arbenigwyr delweddu a gweithwyr proffesiynol angerddol o sefydliadau GIG Cymru.

X-rays

Ers ei chynnal am y tro cyntaf yn 2023, mae’r gynhadledd hon yn prysur ddod yn uchafbwynt ar galendrau gweithwyr proffesiynol o adrannau radioleg mewn byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, yn ogystal ag adrannau’r Gweithlu a Datblygu Sefydliadol. Mae'n gyfle unigryw i ymgolli yn y gymuned ddelweddu fywiog ac ymuno â dathliad Diwrnod Radiograffeg y Byd.

Cofrestrwch eich lle.