Fforwm traws-sector ar gyfer pobl, sefydliadau a busnesau sydd â diddordeb mewn datblygu economi lesiant Cymru. Trafod sut gallwn ni fynd i’r afael â datblygiad economaidd mewn ffordd sy’n cryfhau’r Economi Lesiant, yn hytrach na 'busnes fel arfer'.

Wrth i Gymru arwain gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a strategaeth 'Cymru Can' Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, mae WE Cymru yn ceisio helaethu ein llais ar y cyd er mwyn ysbrydoli mwy o undod a chynnydd. Croesawu'r dull amlochrog hwn yw ein ffin nesaf—gweithio gyda’n gilydd i ymestyn ein cyrhaeddiad a’n heffaith.
Rydym ni’n dod â’n panel o reolwyr datblygu economaidd a llunwyr polisïau at ei gilydd i drafod sut beth yw datblygu economaidd pan fydd wedi’i ddylunio i gryfhau’r Economi Lesiant, yn hytrach na 'busnes fel arfer'.
Gan adeiladu ar y drafodaeth yn WE Cymru 2024, bydd y drafodaeth banel hon yn datblygu ein syniadau am yr ysgogiadau ar gyfer 'datblygu’r economi lesiant', ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.