-
Llundain, y DU

Gyda chyllideb o fwy nag £1bn y flwyddyn, ei genhadaeth yw darparu’r dechnoleg sydd ei hangen ar staff a chleifion i gyflawni uchelgeisiau’r papur polisi The Future of Healthcare a chynllun 10 mlynedd y GIG

Digital Health Innovation

Wrth i’r ymdrech barhau i foderneiddio’r GIG drwy drawsnewid digidol, lansiwyd menter newydd i hyrwyddo cynnydd. Sefydlwyd NHSX ar 1 Gorffennaf 2019.

Gyda chyllideb o fwy nag £1bn y flwyddyn, ei genhadaeth yw darparu’r dechnoleg sydd ei hangen ar staff a chleifion i gyflawni uchelgeisiau’r papur polisi The Future of Healthcare a chynllun 10 mlynedd y GIG.

Mae’r sefydliad yn cynnwys un tîm o arbenigwyr sydd wedi ymuno ag ef o’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, NHS England ac NHS Improvement ac mae wedi’i awdurdodi i sicrhau gallu digidol yn y GIG drwy redeg rhaglenni trawsnewid ac arwain ar bolisi, gweithredu a newid.

Y prif gyfrifoldebau sydd gan NHSX dros dechnoleg, cyfryngau digidol a data yn y GIG, ymysg eraill, yw:

  • pennu polisi cenedlaethol

  • hybu dulliau technegol arloesol newydd

  • hyrwyddo sgiliau a diwylliant digidol

  • datblygu a rhannu’r arferion gorau; hybu’r gallu i ryngweithredu

  • gosod safonau TG

  • Gwella caffael.

Mae Open Forum Events yn eich gwahodd i ddod atom i gynhadledd DigiHealth UK-Delivering Digital Transformation i gael gwybod y diweddaraf am gynigion diweddaraf llywodraeth ar gyfer trawsnewid y GIG drwy gyfrwng Digidol, Data a Thechnoleg.

Bydd y pwyslais ar y diwrnod ar agweddau ymarferol: dyma gyfle i glywed gan siaradwyr lefel uchel a fydd yn trafod polisïau’r dyfodol a strategaethau gweithredu ar gyfer system gofal iechyd yr 21ain ganrif.

Bydd cynrychiolwyr:

  • Yn cael dealltwriaeth o’r sefydliad strwythurol newydd ar gyfer strategaeth TG ac o’r dyrannu ar gyfrifoldebau i sicrhau trawsnewid digidol

  • Yn cael mwy o fewnwelediad i’r rhaglenni gwaith sydd i’w hyrwyddo a’u datblygu, gan sicrhau integredd a diogelwch yr un pryd

  • Yn clywed sut bydd y gweithlu yn cael cymorth gyda’r hyfforddiant a sgiliau sydd eu hangen i wireddu holl botensial technolegau digidol

  • Yn dysgu o enghreifftiau o’r arferion gorau sydd eisoes yn cael effaith sylweddol ar gleifion a staff

Oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu?
Cofrestrwch eich lle heddiw!